Out of focus image of an exhibition hall

Ydych chi am ymuno â ni yng Nghynhadledd Flynyddol ColegauCymru 2023?

Pryd? 12 Hydref 2023
Lle? Gwesty'r Hilton, Caerdydd. 

Roeddem yn falch iawn o fod yn bresennol yng Nghynhadledd Flynyddol ColegauCymru. Thema eleni yw "Llunio dyfodol addysg bellach – darparu Cymru gryfach, wyrddach a thecach"

Yn sôn am ein cyfraniad ni mae Sarah Harris, Cyfarwyddwr Cynorthwyol (Cymwysterau Galwedigaethol): “Rydym yn ddiolchgar i ColegauCymru am gynnal y digwyddiad hwn, a fydd yn gyfle ardderchog i ni gryfhau ein partneriaeth â cholegau ledled Cymru. Edrychwn ymlaen at gyfarfod y sawl sy'n mynychu wyneb yn wyneb, a rhoi cefnogaeth ac arweiniad ychwanegol iddynt er mwyn cyflwyno ein pynciau yn hyderus."


Am y digwyddiad

Gydag agenda llawn dop, mae'r Gynhadledd yn dwyn ynghyd rhanddeiliaid allweddol, addysgwyr ac arweinwyr y diwydiant o bob cwr o Gymru a thu hwnt i ddangos gwerth addysg bellach. Bydd y Gynhadledd yn myfyrio ar yr hyn a ddysgwyd o gyfnod heriol ond bydd hefyd yn edrych i'r dyfodol, gan archwilio cylch gwaith cynlluniau Llywodraeth Cymru i ailwampio'r ffordd y mae addysg ôl-16 yn cael ei llywodraethu a'i chyflwyno yng Nghymru, yn unol â'u cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer Cymru gryfach, wyrddach a thecach.

> Gweler yr agenda lawn

Cwrdd â'r tîm

Bydd ein tîm cyfeillgar wrth law yn ein stondin i’ch cefnogi!  Bydd Sarah Harris, ein Cyfarwyddwr Cynorthwyol, ar gael i ateb eich holl gwestiynau ynghylch ein cyfres o Gymwysterau Galwedigaethol a bydd Nina Rees, Swyddog Datblygu Cymwysterau, yn gallu eich tywys drwy ein dull o gyd-awduro wrth ddatblygu ein cyfres newydd o gymwysterau diwygiedig.

> I ddysgu mwy ac i gadw eich lle

'Rydym yn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn cyd-fynd ag anghenion ein cymdeithas amrywiol a dynamig sy’n parhau i ddatblygu"
'Rydym yn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn cyd-fynd ag anghenion ein...
Blaenorol
BLOG: Gweithgareddau hunanofal ar gyfer mis Tachwedd
BLOG: Gweithgareddau hunanofal ar gyfer mis Tachwedd
Nesaf