BLOG: Gweithgareddau hunanofal ar gyfer mis Tachwedd
Mae'r dail euraidd yn cwympo, mae'r tymheredd yn gostwng, ac nid yw'r gaeaf yn bell o fod ar droed. I rai, mae gweld y rhew disglair am y tro cyntaf yn ennyn cyffro. Mae gweledigaethau o gelyn ac aeron coch, clychau car llusg, taflu peli eira a gloddesta yn dawnsio yn eu pennau. Fodd bynnag, efallai y bydd eraill yn gweld eu hunain yn ymdebygu i Ebenezer Scrooge – mae'r gaeaf yn golygu misoedd o foreau oer a llwm, nosweithiau tywyllach, a biliau gwres llawer uwch! Oni fyddai'n demtasiwn gwisgo gŵn nos clyd, dringo i mewn i wely mawr cynnes a gaeafgysgu tan y gwanwyn?
Allwch chi uniaethu? Ydy eich hwyliau'n disgyn mor gyflym â'r thermomedr? Peidiwch â phoeni, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. A dweud y gwir, mae'n gyffredin iawn teimlo'n drist, neu'n llai egnïol nag arfer hyd yn oed, yn ystod misoedd hir y gaeaf. Ond peidiwch â syrthio i gwymp y gaeaf y mis Tachwedd hwn! Rhowch hwb i'ch hapusrwydd a'ch llesiant drwy roi cynnig ar ein 6 gweithgaredd hunanofal.
- Bwrw glaw yn sobor iawn - Ydych chi'n sownd yn y tŷ diolch i Morus y gwynt ac Ifan y glaw? Beth yw'r ots?! Peidiwch â gadael i'r awyr dywyll effeithio ar eich hwyliau. Pa amser gwell i swatio'n glyd ar y soffa ac ymgolli mewn llyfr da? Darllenwch nofel newydd, chwiliwch am hen ffefryn, neu rhowch gynnig arall ar un na chawsoch chi gyfle i'w gorffen. Diflannwch yn y tudalennau hud ac ewch i fyd gwahanol. Beth yw'r ots am y tywydd pan allwch chi dreulio'r prynhawn yn swatio wrth y tân gyda siocled poeth blasus (heb anghofio'r hufen a'r malws melys bach, wrth gwrs)? Os nad oes tân gennych chi, defnyddiwch ganhwyllau, goleuadau bach a llusernau i greu awyrgylch cynnes a chlyd.
- Lluniwch restr Nadolig - Hyd yn oed os yw hi'n dal i fod yn rhy gynnar yn eich barn chi, mae'r Nadolig yn agosáu. Er ein bod ni'n cytuno, mae'n llawer rhy gynnar i roi'r tinsel ar y goeden, fyddai rhywfaint o gynllunio ddim yn ddrwg o beth. A dweud y gwir, bydd rhywfaint o baratoi yn helpu i leihau llawer o straen y mis nesaf. Rhowch y gorau i brynu gwyllt ar y funud olaf a rhedeg o gwmpas y lle fel twrci wedi torri ei ben. Arafwch – meddyliwch am yr hyn y mae angen ei wneud a phwy mae angen i chi fynd i'w weld. Bydd rhywfaint o drefnu nawr yn golygu bod mwy o amser ar gyfer partis, dathlu ac ymlacio pan ddaw'r Nadolig.
- Byddwch yn greadigol - Byddwch yn onest, faint o amser ydych chi'n ei dreulio ar y cyfryngau cymdeithasol? Gormod o amser? Croeso i'r clwb! Felly, beth am roi'r sgrin i lawr am brynhawn, rhoi seibiant i'ch llygaid a'ch ymennydd, a gwneud rhywfaint o grefftau. Gall gweithgareddau crefft wella'ch hwyliau a'ch helpu i ymlacio! Felly, dewch â'r teulu cyfan at ei gilydd a gadewch eich dychymyg yn rhydd. Beth wnewch chi ei greu? Calendr adfent? Cardiau Nadolig? Garlant sy'n arogli fel oren a sinamon, efallai?
Byddwch yn weithgar!
Rydyn ni i gyd yn deall pa mor bwysig yw ymarfer corff. Rydyn ni'n gwybod ei fod yn meithrin cryfder, yn rhoi hwb i lefelau egni, yn gwella ansawdd cwsg, yn lleihau straen, ac yn atal problemau iechyd. Ond, wrth i'r tywydd oer agosáu ac i'r dyddiau fyrhau, rhaid cyfaddef fod cymhelliant ffitrwydd yn lleihau.
- Gwneud ymarfer corff gartref -Weithiau, ni fydd hyd yn oed yr unigolion ffitrwydd mwyaf ymroddgar yn fodlon mynd allan i'r tywydd garw, ond diolch i'r rhyngrwyd, does dim angen i chi adael cysur eich cartref eich hun. Mae fideos ymarfer corff o bob math i'w cael ar YouTube, gwasanaethau tanysgrifio a rhai rhad ac am ddim. Edrychwch ar y wefan a dewch o hyd i rywbeth sy'n berffaith ar eich cyfer chi – mae pob math o opsiynau, beth bynnag yw eich lefel ffitrwydd.
- Ymestynnwch! - Peidiwch ag anghofio cynhesu a dadgynhesu! Mae'r ddau yn golygu gwneud ymarferion ar gyflymder arafach a dwysedd is, sy'n atal anafiadau, yn gwella perfformiad athletaidd ac yn helpu ymadfer.Mae'n ymddangos yn syml, ond byddwch chi'n diolch i ni'r diwrnod wedyn!
- Peidiwch â chymharu - Peidiwch â syrthio i'r fagl o gymharu. Canolbwyntiwch arnoch chi eich hun yn hytrach na phoeni am yr hyn mae pobl eraill yn ei wneud. Mae eich trefn, eich nodau a'ch amgylchiadau yn hollol wahanol i rai pawb arall. Rydyn ni i gyd ar ein taith unigryw ein hunain.
Addasiadau i décor y cartref
Dewch â chynhesrwydd a chysur i'ch ystafelloedd gyda phatrymau a thecstilau tymhorol a chrëwch awyrgylch clyd a chartrefol – encil hud rhag y byd tu allan.
Felly, p'un a ydych chi'n ystyried ailaddurno'n llwyr neu newid ychydig ar y lle yn unig, dyma awgrymiadau décor gaeafol syml i'ch helpu i weddnewid eich cartref.
- Yng ngolau cannwyll - Mae golau bob amser yn bwysig i greu'r awyrgylch cywir. Bydd fflam grynedig yn helpu i greu awyrgylch clyd a chartrefol. Rydyn ni wrth ein boddau â chanwyllbrennau ar gyfer décor yr ystafell fwyta – hynod gain! Os nad ydych chi'n hoff o ganhwyllau, beth am newid i oleuadau a lampau wal i ychwanegu rhywfaint o olau ysgafn i'r ystafell heb oleuadau cras uwchben. Ar gyfer arddangosfa dymhorol hudol, rydyn ni'n awgrymu eich bod yn arbrofi â goleuadau bach.
- Tonau twym - Mae lliw yn bwerus – dyma un o'r ffyrdd gorau o roi hwb i hwyliau. Dydyn ni ddim yn awgrymu eich bod yn ailbeintio eich tŷ i gyd, ond efallai y gallech chi beintio wal nodwedd mewn lliw sy'n eich gwneud yn hapus ar y tu mewn? Arbrofwch ag amrywiaeth o gyfuniadau lliwiau o liw coch llugaeron i felyngoch. Mwynhewch! Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael haenau o ffabrigau ac ategolion lliwgar hefyd – clustogau, cerfluniau, rygiau a phaentiadau!
- Haenau ychwanegol - Beth am i chi gael basged o flancedi cynnes wrth law ar gyfer y nosweithiau rhewllyd gaeafol hynny? Gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis dyluniadau sy'n cyd-fynd â'r décor. Efallai y gallech chi ddewis fflach o liw? Rydyn ni wrth ein boddau â gwyrdd y goedwig – lliw natur, twf a bywioldeb. Gwyrdd yw'r lliw delfrydol os ydych chi'n chwilio am deimladau cadarnhaol a llonyddwch.
- Blodau - P'un a ydych chi'n dewis blodau ffres neu sych, mae blodau yn ffordd wych o ddod â rhywfaint o weadau cain a naturiol i'ch cartref. Maen nhw'n arogli'n fendigedig ac yn ychwanegu lliw, ac maen nhw hefyd yn ein hatgoffa o harddwch, bywyd ac egni. Y gorffeniad perffaith i unrhyw gartref!