'Rydym yn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn cyd-fynd ag anghenion ein cymdeithas amrywiol a dynamig sy’n parhau i ddatblygu"

'Rydym yn sicrhau bod y cymwysterau newydd yn cyd-fynd ag anghenion ein cymdeithas amrywiol a dynamig sy’n parhau i ddatblygu"

Mae Richard Harry, ein Cyfarwyddwr Cymwysterau, Asesu a Swyddog Cyfrifol, yn arwain y broses o ddatblygu cyfres newydd sbon o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig, yn dilyn cyhoeddiad canfyddiadau ymgynghoriad Cymwysterau Cymru. Yma, mae'n edrych ar sut rydym yn ymgysylltu â rhanddeiliaid, dysgwyr ac athrawon, yn ogystal â'r camau nesaf yn y broses ddatblygu.

“Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod cyffrous iawn i ni wrth i ni ddechrau'r gwaith o greu cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig dwyieithog yn rhan o fenter 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol' Cymwysterau Cymru.

“Rydym wedi chwarae rhan fawr a gweithredol yn yr holl broses ymgynghori a nawr rydym yn arwain ar y broses o ddatblygu'r cymwysterau newydd hyn. Wrth i ni gychwyn ar y daith drawsnewidiol hon, rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i wrando gweithredol, myfyrio'n barhaus ac ymateb i adborth gwerthfawr. Ein nod yw datblygu cymwysterau sy'n gynhwysol, sy'n ennyn diddordeb, yn cefnogi'r cwricwlwm ac sydd wir yn addas ar gyfer y dyfodol.

"O ran y camau nesaf, mae'r cam datblygu wedi hen ddechrau. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio'n agos gyda'n grwpiau cynghori ar ddatblygu cymwysterau yn rhan o ymgynghoriad ar amlinelliadau'r cymwysterau, sy'n cael ei gynnal yr hydref hwn, cyn i amlinelliadau'r cymwysterau gael eu cyhoeddi ddechrau'r flwyddyn nesaf.

"Trwy gydol y broses gyfan rydym yn parhau i fod yn angerddol am symud yr ethos cyd-awduro ymlaen. Cafodd y Cwricwlwm i Gymru ei gyd-awduro, yn ogystal â'r penderfyniadau ynghylch sut dylai'r cymwysterau edrych o safbwynt rheoleiddiol. Nawr, rydym yn cyd-awduro'r cymwysterau.

“Cydweithio yw'r gair allweddol yma, ac rydym yn gweithio i greu cymwysterau y gallai'r sector addysg cyfan ymddiried ynddyn nhw, gan ddysgu o unrhyw wersi yn y gorffennol a chreu cymwysterau sy'n ymgorffori gwerthoedd a dyheadau cyffredin y sector cyfan.

"O'r eiliad y cyhoeddwyd canfyddiadau ymgynghoriad Cymwysterau Cymru, aethom ati i ymgysylltu â thrawstoriad o randdeiliaid, o'r gweithlu cyffredinol, hyd at gymunedau addysg. Rydym bellach wedi recriwtio awduron cymwysterau, adolygwyr cymwysterau ac aelodau ar gyfer ein grwpiau cynghori ar ddatblygu ar lefel pwnc, a byddwn yn ystyried barn ac adborth dysgwyr drwy ein Grŵp Cynghori Dysgwyr hefyd.

"Wrth gwrs, mae twf a datblygiad dysgwyr yn ystyriaeth allweddol i ni. Fel corff sy'n canolbwyntio ar ddysgwyr, rydym yn falch iawn o weld amrywiaeth ehangach o gymwysterau TGAU nag yr ydym wedi'i chael o'r blaen, ac rwy'n hyderus y bydd pynciau newydd fel Astudiaethau Cymdeithasol, Dawns ac Iaith Arwyddion Prydain yn grymuso dysgwyr gydag addysg fwy cynhwysfawr a chyfannol.

“Bwriad y cwricwlwm newydd yw gwella dysgu a phrofiad y dysgwyr, drwy gydol eu hamser yn yr ysgol. Rôl y cymhwyster yw cefnogi hynny, felly drwy gynnig amrywiaeth ehangach o bynciau, rydym yn galluogi dysgwyr i ddilyn eu diddordebau a'r hyn maen nhw'n angerddol drosto, ac i wneud cynnydd.

“O ran dulliau asesu, ac yn unol â chanfyddiadau ymgynghoriad Cymwysterau Cymru, byddwn yn cynyddu nifer yr asesiadau di-arholiad y byddwn yn eu cynnig. Y nod yw sicrhau bod ein hasesiadau'n ennyn diddordeb dysgwyr. Rydym yn gweithio'n agos gyda dysgwyr ac athrawon yn y cyfnod cychwynnol hwn i sicrhau bod y cynnydd mewn asesiadau di-arholiad mor hylaw â phosibl, o ran llesiant dysgwyr yn ogystal â llwyth gwaith athrawon.   Rydym yn gwerthfawrogi eu mewnbwn a'u hadborth a bydd yn allweddol wrth lunio amlinelliadau'r cymwysterau a'r hyn y byddwn yn ei ddarparu yn y pen draw. 

"Yn ogystal â chefnogi dysgwyr, mae hefyd yn hanfodol ein bod yn cefnogi athrawon i gyflwyno'r cymwysterau newydd. Rydym eisoes yn ymgysylltu â nhw o ran y cynnydd mewn asesiadau di-arholiad, ac rydym yn canolbwyntio ar lunio rhaglen dysgu o proffesiynol gynhwysfawr, er mwyn sicrhau bod gan bob athro fynediad at offer sy'n cryfhau eu hyder wrth ddarparu addysg o ansawdd uchel.  

"Byddwn yn parhau i ddarparu amrediad o adnoddau ategol ac, fel rhan o broses ddatblygu'r gyfres newydd hon o gymwysterau, byddwn yn edrych yn fanwl ar ba adnoddau ychwanegol y gallwn eu rhoi ar waith i helpu i ddarparu'r gefnogaeth orau posibl i athrawon a dysgwyr.

“Ar draws Cwricwlwm i Gymru mae cynaliadwyedd, amrywiaeth, cynhwysiant a pherthyn yn themâu trawsgwricwlaidd, ac yn ystyriaethau craidd y byddwn yn eu hymgorffori ym mhob cymhwyster. Rydym hefyd yn ymgysylltu'n weithredol ag arbenigwyr amrywiaeth a rhaglenni megis Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliol (DARPL), ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein cymwysterau wedi'u cynllunio i fod yn gynhwysol a chynrychioli o bob dysgwr.

“Drwy gynnwys addysgwyr, dysgwyr a rhanddeiliaid yn y broses gynllunio, ein nod yw sicrhau bod y cymwysterau hyn yn cyd-fynd ag anghenion ein cymdeithas amrywiol a dynamig sy'n esblygu'n barhaus. Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at barhau â'r daith."

Er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y newyddion, y cyfleoedd a'r Cwestiynau Cyffredin ynghylch y TGAU newydd, eich i'n hardal we 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol: Mae CBAC yn barod'. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau a fydd yn arwain y gwaith o greu'r TGAU newydd.