Ydych chi am ymuno â ni yn Sioe Addysg Genedlaethol 2026?
Rydym yn falch iawn o gael arddangos yn y Sioe Addysg Genedlaethol yn Llandudno eleni.
Pryd? Dydd Gwener, 12 Mehefin 2026
Ble? Venue Cymru, Llandudno
Am y digwyddiad
Mae'r Sioe Addysg Genedlaethol yn un o'r digwyddiadau addysg mwyaf dylanwadol, ac yn dod â miloedd o athrawon, arweinwyr a gweithwyr addysg proffesiynol at ei gilydd am ddiwrnod o ddysgu, rhwydweithio a darganfod syniadau newydd.
Gyda rhaglen lawn o seminarau ac arddangosfa enfawr sy'n dangos yr adnoddau a'r datblygiadau diweddaraf, mae'n gyfle gwych i archwilio dulliau newydd, dysgu strategaethau ymarferol, a chysylltu ag eraill sy'n angerddol am wella addysg.
Cwrdd â'r tîm
Bydd ein tîm cyfeillgar ar gael yn Stondinau 89 a 90 i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych am ein cyfres o gymwysterau galwedigaethol a chymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 newydd, ac i arddangos ein hamrywiaeth heb ei hail o adnoddau digidol RHAD AC AM DDIM.
![]() |
Wrth sôn am ein rhan yn y Sioe Addysg Genedlaethol, dywedodd Sascha Hallett, Rheolwr Datblygu Busnes: “Mae'r Sioe Addysg Genedlaethol bob amser yn uchafbwynt i ni, gan ddod ag addysgwyr at ei gilydd am ddiwrnod o gydweithio, trafod ac ysbrydoliaeth. Mae'n darparu'r llwyfan perffaith i gwrdd â'n tîm, gofyn cwestiynau, a thrafod ein cymwysterau; ac i archwilio'r nifer o ffyrdd y gallwn ni gefnogi addysgu a dysgu ar draws Cymru.” |
