CBAC yn parhau i arwain y ffordd o ran cymeradwyo cymwysterau Ton 3

Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod 5 cymhwyster Ton 3 ychwanegol wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru fel rhan o'r cynnig Cenedlaethol 14-16.

 

 

Dywedodd Delyth Jones, Datblygu Cymwysterau, wrth sôn am y garreg filltir hon: “CBAC oedd y corff dyfarnu cyntaf i gael cymeradwyaeth Cymwysterau Cymru ar gyfer ein cymwysterau Ton 3, gan adlewyrchu ein gallu i ddatblygu a chyflwyno cymwysterau sy'n ysbrydoli dysgwyr ac yn rhoi'r sgiliau iddynt lwyddo.

Rydym wrth ein bodd bod ein cyflwyniadau yn parhau i gael eu cymeradwyo ac edrychwn ymlaen at rannu'r manylebau wedi'u cymeradwyo gyda'n hathrawon ym mis Medi.

Bydd y cymwysterau newydd hyn yn rhoi mwy o ddewis i ddysgwyr ledled Cymru archwilio eu meysydd diddordeb a darganfod llwybrau newydd.”

Cymwysterau wedi'u cymeradwyo 

Mae'r cymwysterau sydd newydd eu cymeradwyo hyn dod yn sgil y gymeradwyaeth a gafwyd yn barod ar gyfer ein cymhwyster TAAU a'n cymhwyster Sylfaen, ynghyd â'n cymwysterau Project Personol, Sgiliau Bywyd a Gwaith:

  • Cymwysterau TAAU: Lefel 1 / 2 
    • Amgylchedd Adeiledig 
    • Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg 
    • Lletygarwch ac Arlwyo 
    • Gwasanaethau Cyhoeddus 
    • Teithio a Thwristiaeth
    • Y Celfyddydau Perfformio
    • Adwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid
    • Chwaraeon a Hamdden
  • Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol: Lefel Mynediad / Lefel 1 
    • Cymraeg
    • Cymraeg Craidd  
    • Dylunio a Thechnoleg
    • Technoleg Ddigidol
    • Saesneg 
    • Y Celfyddydau Mynegiannol
    • Y Dyniaethau 
    • Mathemateg a Rhifedd
    • Y Gwyddorau
  • Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith: Lefel Mynediad / Lefel 1  
    • Amgylchedd Adeiledig
    • Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg  
    • Peirianneg 
    • Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
    • Lletygarwch ac Arlwyo
    • Gwasanaethau Cyhoeddus
    • Adwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid
    • Teithio a Thwristiaeth
  • Lefel Mynediad, Lefel 1 a Lefel 2 
    • Project Personol
    • Sgiliau Bywyd  
    • Sgiliau Gwaith 

Bydd y cymwysterau hyn ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027.

Noder, er ein bod yn cyhoeddi'r manylebau drafft ar hyn o bryd, oherwydd cyfyngiadau rheoleiddiol, ni ellir cyhoeddi'r fersiynau wedi'u cymeradwyo, terfynol tan 1 Medi. I dderbyn y diweddariadau diweddaraf, tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Canllawiau Cyflym – ar gael nawr

Er mwyn eich cyflwyno i'n cymwysterau newydd cyffrous, mae ein timau pwnc wedi cynhyrchu 'Canllawiau Cyflym' unigol sy'n esbonio:

  • Pwrpas y cymwysterau newydd 
  • Ar gyfer pwy mae'r cymwysterau 
  • Eu strwythur cyffredinol 
  • Ein dull o asesu 

Lawrlwythwch eich canllawiau yma

Gwybodaeth bellach

I gael gwybod mwy am ein cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 3 ewch i'r adran bwrpasol ar ein gwefan.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau anfonwch neges e-bost at ton3@cbac.co.uk