Gwneud-i-Gymru: Cloncian gyda'n cymuned
Nid rhywbeth sy'n cael ei grybwyll wrth basio yw dweud ein bod yn ymgysylltu â'r gymuned addysg; rydym wir yn gwneud hynny. Profwyd hynny yn ystod ail hanner tymor y gwanwyn. Ers Ton 1, mae cydweithio agos wedi digwydd ag athrawon, darlithwyr a dysgwyr fel rhan ganolog o'r ffordd yr aethom ati i lunio ein cymwysterau, a dydy Ton 3 yn ddim gwahanol i hynny. Rydym wedi parhau i wrando, casglu adborth, a sicrhau bod ein cyfres o gymwysterau yn adlewyrchu anghenion y bobl hynny sydd wir o bwys, ein dysgwyr. Digwyddodd hynny drwy drafod â'n Grwpiau Cynghori, grwpiau Datblygu Cymwysterau, a hefyd ymgysylltu uniongyrchol ag ysgolion a cholegau.
Mae'r ymateb cadarnhaol a gafwyd i'n cymwysterau newydd yn rhywbeth yr ydym yn ddiolchgar amdano, wrth gwrs, ond deallwn hefyd yr heriau hynny a ddaw o ran llwyth gwaith yn sgil cyflwyno ein TGAU Gwneud-i-Gymru newydd. Rydym felly'n gweithio gyda rhanddeiliaid i fynd i'r afael â'r pryderon a fynegwyd er mwyn cefnogi eu trosglwyddiad llwyddiannus. Byddwn yn rhannu'r manylion diweddaraf ynglŷn â'n gwaith i ddatrys y materion hyn yn fuan.
O ran ein cymwysterau Ton 3, mae Sophie Dobbs, ein Cynrychiolydd Rhanbarthol, wedi ymgysylltu â mwy na 140 o ysgolion a cholegau erbyn hyn. Bydd llawer ohonoch yn ei hadnabod ac wedi cael y cyfle i drafod ein cymwysterau newydd yn uniongyrchol â hi. Hoffwn gydnabod yr holl ymdrech sydd wedi bod ar y ddwy ochr; diolch am gymryd yr amser i gynnal y sgyrsiau hynny.
Hoffwn grybwyll hefyd y 200 a mwy o gydweithwyr a wnaeth ymuno â ni ar gyfer ein Gweminer Uwch Arweinwyr ym mis Ebrill. Roedd yn galonogol gweld lefel yr ymgysylltu a gafwyd yn ystod y sesiwn, ac rwy'n ddiolchgar i bawb wnaeth wneud yr amser i fod yn bresennol.
Ochr yn ochr â'r gwaith hwn, rydym wedi bod yn llunio pecyn cyflawn o ddeunyddiau cefnogi. Lansiwyd ein Canllawiau Cyflym Ton 3 ym mis Mawrth; mae'r rhain yn cynnig trosolwg hygyrch o bob cymhwyster gan ymdrin â phwrpas, strwythur, proffil y dysgwyr targed, a dull asesu. Y mis diwethaf, cyhoeddwyd dwy set gyntaf y manylebau drafft, gan ganiatáu i athrawon a darlithwyr fynd ati gyda hyder i baratoi i addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2027. Mae ein Cwestiynau Cyffredin penodol i Don 3 yn cynnwys llinell amser lawn yn nodi pa bryd y bydd y Manylebau, Deunyddiau Asesu Enghreifftiol (DAE) a Chanllawiau Addysgu Ton 3 terfynol wedi'u cymeradwyo ar gael.
Cymwysterau Ton 2
Gyda mis Medi'n prysur agosáu, mae ysgolion ledled Cymru wrthi'n paratoi i gyflwyno ail don y cymwysterau TGAU a chymwysterau perthynol Gwneud-i-Gymru. Gwyddom fod y gwaith paratoi'n rhywbeth sy'n cymryd cryn amser ac ymdrech, ac rydym yma i'ch cefnogi chi drwy bob cam o'r broses honno.
Mae holl ddogfennaeth addysgu Ton 2 gan gynnwys Manylebau, Deunyddiau Asesu Enghreifftiol a Chanllawiau Addysgu terfynol wedi'u cymeradwyo ar gael yn awr ar ein gwefan. Datblygwyd y deunyddiau hyn gan roi pob ystyriaeth i sut y byddan nhw'n cael eu cyflwyno. Bydd eich timau chi wedyn yn gallu mynd ati'n hyderus i gynllunio a pharatoi.
Fel adnodd pellach, bydd ein gwefan benodol o Adnoddau Digidol Gwneud-i-Gymru yn cynnwys y gyfres gyflawn o 242 pecyn newydd o fis Medi ymlaen. Bwriad y deunyddiau addasadwy hyn, a ddyluniwyd i gefnogi cyflwyno ein cymwysterau newydd, yw helpu addysgwyr i lunio gwersi sy'n ddeniadol ac yn effeithiol.
Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a fynychodd ein sesiynau Dysgu Proffesiynol ledled Cymru yn ddiweddar. Gwelwyd gwir ymgysylltu trwy gydol y sesiynau hyn, ac roedd yn galonogol gweld cymaint o gydweithwyr yn rhoi o'u hamser i fod yn bresennol, rydym yn gwerthfawrogi eich ymrwymiad.
Gweithio gyda'r gymuned addysg
Mae'r gyfres arholiadau haf bellach wedi cychwyn, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi ymwneud â chyrraedd y pwynt hwn; ein timau mewnol, a'r ysgolion a cholegau ledled Cymru sydd wedi paratoi'n ddwys dros gyfnod o amser. I bob dysgwr sy'n sefyll arholiadau'r tymor hwn: pob lwc.
Deallaf wrth gwrs bod pwysau ychwanegol wedi bod y tymor hwn i lawer o ysgolion yn paratoi i gyflwyno cymwysterau newydd. Clywsom y pryderon hynny, ac rydym wedi bod yn cydweithio â Cymwysterau Cymru a Llywodraeth Cymru i ymateb iddyn nhw. Cyn y Pasg, nodwyd nifer o gamau gweithredu yr oeddem yn eu hystyried i liniaru rhywfaint ar y pwysau hynny pan ysgrifennom at y gymuned addysg. Gallwch chi ddarllen y llythyr yma. Byddwn yn dal i gydweithio â'n partneriaid i sicrhau bod y cyfnod pontio mor hylaw â phosibl, ac rydym am barhau i glywed gennych. Cofiwch gysylltu os oes gennych unrhyw bryderon.
O ddweud hynny, cefais y pleser o ymweld â Dyffryn Amman ym mis Mawrth. Yr wyf wrth fy modd ac wir yn gwerthfawrogi'r cyfle i gynnal ymweliadau fel hyn. Mae clywed gan arweinwyr, athrawon, a dysgwyr yn cadw fy nhraed ar y ddaear o ran yr hyn sy'n digwydd mewn ysgolion a cholegau. Os hoffech chi drefnu ymweliad, cysylltwch â Lorna Turner ar lorna.turner@cbac.co.uk ac mi drefnwn ni amser.
Cyn i mi gloi, hoffwn nodi bod Eisteddfod yr Urdd ar Ynys Môn wir yn uchafbwynt y tymor. Mae'n fraint bob amser i fod yn rhan o ddigwyddiad y mae dysgwyr Cymru a'u hamrywiol gyflawniadau'n rhan mor ganolog ohono. Roedd yn wych dod i gysylltiad â chynifer o athrawon a dysgwyr mewn lleoliad sydd gryn dipyn yn wahanol i'r arfer. Os cawsom sgwrs, yna diolch yn fawr am alw heibio; mae'r sgyrsiau hyn yn bwysig ac yn bwydo'n ôl i'n gwaith ni yn bendant. Diolch yn fawr i bawb yn CBAC oedd yna; mae'r sgyrsiau hyn yn bwysig ac yn bwydo'n ôl i sut y byddwn ni'n datblygu ac yn ffurfio ein cymwysterau.
Yn gywir,
Ian Morgan
Prif Weithredwr, CBAC