
Ton 2 o'r manylebau drafft Gwneud-i-Gymru ar gael yn awr
Yn dilyn cyfnod dwys o ddatblygu cymwysterau, rydyn ni'n falch o gyhoeddi bod ein manylebau drafft ar gyfer yr ail don o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig Gwneud-i-Gymru ar gael i'w gweld ar-lein. Mae'r 10 o fanylebau drafft hyn wedi'u cyflwyno i Cymwysterau Cymru eu cymeradwyo a byddant ar gael i'w haddysgu o fis Medi 2026 ymlaen.
![]() |
Dywedodd Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol: Datblygu Cymwysterau (Cymwysterau Cyffredinol) CBAC, wrth sôn am y datblygiad sylweddol hwn: “Rydyn ni'n falch iawn o gyhoeddi ein manylebau drafft ar gyfer y cymwysterau newydd cyffrous hyn. Rwy'n ddiolchgar i'n hawduron ac adolygwyr, ein grwpiau cynghori, timau'r pynciau a'n Tîm Datblygu Cymwysterau am eu cyfranogiad gweithredol sydd wedi cefnogi datblygiad y cymwysterau hyn. |
Drwy gydol y broses ddatblygu, rydyn ni wedi ymgysylltu a gwrando ar amrywiaeth eang o randdeiliaid ac o'r farn y bydd pob cymhwyster yn cefnogi system addysgol fodern, gynhwysol ac amrywiol sy'n adlewyrchu a chefnogi dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru. Mae pob cymhwyster wedi'i gynllunio i ysbrydoli ac ennyn diddordeb dysgwyr ar draws Cymru, gan roi cyfleoedd newydd ac wedi'u diweddaru iddynt i ddatblygu eu gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau i ffynnu mewn marchnad fyd-eang." |
Mae ein manylebau drafft, a gynlluniwyd i fodloni Meini Prawf Cymeradwyo Cymwysterau Cymru, ar gael i'w gweld ar y dudalen pwnc:
TGAU
Cymhwyster nad yw'n TGAU
Dyma'r ail gyflwyniadau i Cymwysterau Cymru, ond nid ydynt wedi'u cymeradwyo eto. Fodd bynnag, rydyn ni'n annog athrawon i'w hadolygu gan eu bod yn dangos cynnwys a strwythur asesu pob cymhwyster. Bydd y manylebau terfynol a gymeradwyir yn cael eu cyhoeddi ym mis Medi.
Cefnogi dyheadau'r Cwricwlwm i Gymru
Datblygwyd y cymwysterau gyda’r Cwricwlwm i Gymru mewn cof. Fodd bynnag, ni fydd hyn i gyd i'w weld yn y fanyleb gan mai dim ond rhan gyntaf y jig-so yw hynny. Ym mis Rhagfyr, bydd pecyn asesu cynhwysfawr yn cael ei gyhoeddi ar gyfer pob cymhwyster, a fydd yn cynnwys trefniadau asesu manwl a deunyddiau asesu enghreifftiol.
Yn ogystal, er mwyn cefnogi'r gwaith o gyflwyno'r cymwysterau newydd hyn, byddwn yn cyhoeddi Canllawiau Addysgu ym mis Ionawr; bydd y Canllawiau hyn yn cefnogi athrawon wrth baratoi at asesu ac yn nodi'r cyfleoedd i gynnwys agweddau ar y Cwricwlwm i Gymru wrth gyflwyno'r cymwysterau.
Dysgu Proffesiynol ac Adnoddau RHAD AC AM DDIM
Yn ddiweddar, cyhoeddwyd ein pecyn adnoddau digidol addasadwy RHAD AC AM DDIM y byddwn yn eu cyhoeddi i gefnogi'r cymwysterau hyn.
Ochr yn ochr â'r adnoddau hyn, rydyn ni hefyd yn cyflwyno amserlen bwrpasol o gyfleoedd Dysgu Proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r cyrsiau cenedlaethol hyn sy'n RHAD AC AM DDIM ar gael i ganolfannau ledled Cymru. Bydd pob cwrs yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr pwnc hyfforddedig a fydd yn rhoi cipolwg ar bob cymhwyster ac yn cynnig cyngor ac arweiniad pragmataidd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, gan gynnwys ein Sioeau Teithiol Ledled Cymru ar gael yma.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau newydd, ewch i'n hardal 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.