Mae'r ail set o fanylebau drafft Gwneud-i-Gymru Ton 3 bellach ar gael
Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r ail set o fanylebau drafft ar gyfer trydedd ton ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru. Mae'r cyhoeddiad hwn yn cynnwys ein cymwysterau Project Personol a Sgiliau ar gyfer Bywyd a Gwaith, gan gynnig llwybrau dysgu pellach i ddysgwyr ledled Cymru.
Bellach ar gael i'w gweld ar-lein, mae'r manylebau drafft hyn wedi'u cyflwyno i Cymwysterau Cymru eu cymeradwyo, gyda'r bwriad i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027.
|
|
Wrth sôn am y datblygiad cyffrous hwn, dywedodd Sara Davies, Pennaeth Sgiliau a Llwybrau: “Mae ein cymwysterau Project Personol wrth wraidd ein cynnig sy'n seiliedig ar sgiliau, gan alluogi dysgwyr i ddatblygu'r wybodaeth a'r galluoedd sydd eu hangen arnynt ar gyfer eu llwybrau yn y dyfodol. Gan adeiladu ar lwyddiant wedi'i brofi y Project Unigol o fewn y Dystysgrif Her Sgiliau gyfredol, mae'r cymwysterau newydd hyn yn cynrychioli esblygiad naturiol a chyffrous. |
Wedi'u datblygu mewn cydweithrediad agos ag athrawon a rhanddeiliaid ehangach, maent wedi'u cynllunio i sicrhau pontio esmwyth i ganolfannau, gyda chefnogaeth yr un tîm profiadol CBAC. Mae dyluniad arloesol ein cymwysterau Project Personol Lefel 1 a Lefel 2 yn sicrhau bod lefel a gradd dysgwyr yn cael eu pennu gan ansawdd eu gwaith yn unig, yn hytrach na phenderfyniadau cofrestru, gan ganiatáu i lawn botensial pob dysgwr gael ei gydnabod.
Mae ein cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith wedi'u cynllunio i gydnabod a dathlu cryfderau pob dysgwr. Maent yn darparu llwybrau hyblyg ac ystyrlon sy'n meithrin hyder ac annibyniaeth, gan roi'r sgiliau hanfodol sydd eu hangen i ddysgwyr ar gyfer bywyd y tu hwnt i'r ysgol.”
Mae ein manylebau drafft, a gynlluniwyd i fodloni Meini Prawf Cymeradwyo Cymwysterau Cymru, ar gael ar dudalen y pwnc:
- Lefel Mynediad
- Lefel 1
- Lefel 2
Rydym hefyd wedi cyhoeddi unedau enghreifftiol ar gyfer ein cymwysterau Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith. Gall y tair uned hyn, a gyflwynir ochr yn ochr â'r cymhwyster Project Personol, ddisodli'r Dystysgrif Her Sgiliau mewn modd naturiol a chydlynol. Byddwn yn datblygu canllawiau clir a deunyddiau cefnogi i gynorthwyo canolfannau sy'n dymuno mabwysiadu'r dull hwn.
Sgiliau Bywyd a Sgiliau Gwaith
- Cyfranogiad cymunedol
- Democratiaeth ar waith
- Menter
Noder, oherwydd cyfyngiadau rheoleiddio, ni allwn gyhoeddi'r manylebau terfynol wedi'u cymeradwyo tan fis Medi.
Canllawiau Cyflym – dod i adnabod eich cymhwyster
Ochr yn ochr â'n manylebau drafft, mae ein timau pwnc wedi cynhyrchu 'Canllawiau Cyflym' i roi trosolwg clir a hygyrch o'r cymwysterau newydd cyffrous hyn.
Mae'r canllawiau hyn yn amlinellu'r canlynol:
- Pwrpas a throsolwg o'r cymhwyster
- Strwythur y cymhwyster
- Proffil y dysgwr targed
- Dull asesu
Lawrlwythwch eich Canllawiau Cyflym yma.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau newydd, ewch i'n hardal 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.
