CBAC Cymwysterau Sgiliau Bywyd a Gwaith
Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio
Ynglŷn a'r Gyfres Sgiliau
Mae'r cymwysterau Sgiliau Bywyd a Gwaith yn grymuso dysgwyr drwy raglen unedol, hyblyg sy'n cefnogi twf personol, datblygiad ymarferol, ac yn eu gwneud yn barod am y dyfodol.
Yn seiliedig ar gyd-destunau byd go iawn, maen nhw'n cynnig rhaglenni dysgu diddorol, ymarferol sy'n meithrin hyder a sgiliau bywyd a gwaith hanfodol.
Bydd yr unedau sydd ar gael yn rhan o'r cymwysterau'n caniatáu i ddysgwyr barhau â'u dysgu o fewn y Chwe Maes Dysgu a Phrofiad, yn ogystal ag elfennau gorfodol y Cwricwlwm i Gymru.

Ar gyfer pwy mae'r cymwysterau hyn?
Mae'r cymwysterau hyn wedi'u llunio ar gyfer dysgwyr a fydd yn ffynnu wrth ddilyn strwythur unedol, hyblyg sy'n cydnabod cynnydd ar bob cam.
Bydd yr unedau Sgiliau Bywyd a Gwaith yn addas i'r rheiny sy'n cael eu hannog gan ddatblygiad cyson, ac sy'n chwilio am lai o bwysau ar asesu, yn ogystal â dysgwyr sydd â chryfderau amrywiol ar draws gwahanol feysydd dysgu.
Yn gynhwysol ac yn hygyrch, mae'r cymwysterau Sgiliau Bywyd a Gwaith yn cefnogi pob dysgwr o Lefel Mynediad 1 hyd at Lefel 2.