CBAC Prosiect Personol
Gall addysgu a dysgu ei gwneud yn ofynnol i athrawon a dysgwyr ymgysylltu â materion sensitif. Er mwyn cefnogi ymarferwyr sy'n cyflwyno ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru, rydym wedi datblygu dogfen ganllawiau newydd ar gyflwyno testunau sensitif yn yr ystafell ddosbarth. Gallwch gael mynediad i'n canllawiau drwy'r cyswllt canlynol.
- creadigrwydd ac arloesi
- meddwl yn feirniadol a datrys problemau
- effeithiolrwydd personol
- cynllunio a threfnu
Bydd ymgymryd â'r cymwysterau hyn yn meithrin annibyniaeth, gwydnwch, ac ymdeimlad cryf o berchnogaeth dros ddysgu.
Ar gyfer pwy mae'r cymwysterau hyn?
Mae'r Project Personol wedi'i lunio ar gyfer dysgwyr sydd eisiau archwilio testun sy'n bwysig iddyn nhw – sy'n gysylltiedig â diddordeb personol, dyhead yn y dyfodol, neu i barhau â'u dysgu o fewn y Chwe Maes Dysgu a Phrofiad.
Mae'r Project Personol yn gynhwysol i bob dysgwr sy'n gweithio o Lefel Mynediad 1, hyd at Lefel 2.