Lefel 1/2 Dyfarniadau Galwedigaethol newydd i'w haddysgu o fis Medi 2022
Rydym wedi bod yn gweithio gydag athrawon ac arbenigwyr pwnc eraill i adolygu a diweddaru ein cyfres o Ddyfarniadau Galwedigaethol Cyfnod Allweddol 4, gan ystyried adborth a dderbyniwyd gennych chi.
Wrth ailddatblygu'r cymwysterau hyn, rydym wedi gofalu ein bod yn cadw'r elfennau sy'n bwysig i chi, gan gynnwys:
- strwythurau syml i gymwysterau, gan leihau nifer yr asesiadau y mae angen i fyfyrwyr eu cwblhau
- manylebau cymwysterau clir a syml sy'n cyfleu'r hyn y mae angen i fyfyrwyr ei wybod, ei ddeall a gallu ei wneud
- lleiafswm o 60% o asesu di-arholiad, gan roi'r cyfle i fyfyrwyr ddangos eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u dealltwriaeth drwy dasgau ymarferol a diddorol.
Ar yr un pryd, rydym wedi gwneud newidiadau i gefnogi cyflawniad a dilyniant myfyrwyr gan gynnwys cyflwyno asesiadau di-arholiad seiliedig ar farciau sy'n gyfadferol o fewn ac ar draws unedau.
Byddwn yn cyflwyno manylebau newydd neu fanylebau wedi'u hadnewyddu yn y meysydd pwnc canlynol.
- Cyfathrebu Busnes Byd-eang (Ffrangeg)
- Cyfathrebu Busnes Byd-eang (Almaeneg)
- Cyfathrebu Busnes Byd-eang (Sbaeneg)
- Peirianneg
- Gweithredu Digwyddiadau
- Lletygarwch ac Arlwyo
- TGCh
- Celfyddydau Perfformio
- Busnes Adwerthu
- Chwaraeon ac Egwyddorion Hyfforddi
Yn ogystal, mae ein Dyfarniadau Galwedigaethol mewn Twristiaeth ac Adeiladu’r Amgylchedd Adeiledig yn dal i fod ar gael.
Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein datblygiadau â chi a byddwn yn cynnal gweminarau ym mis Mehefin 2021, yn dilyn adborth gan y rheoleiddwyr, i gyflwyno'r gyfres ddiwygiedig. Ar ôl y gweminarau hyn, byddwn yn cynnal digwyddiadau pwnc-benodol yn rhoi golwg mwy manwl ar bob pwnc a'r gefnogaeth sydd ar gael.
I dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf am y cymwysterau hyn sydd wedi'u hailddatblygu a digwyddiadau yn y dyfodol, tanysgrifiwch i'n diweddariadau pynciol.
Archebwch eich lle ar ein Digwyddiad Lansio Cymwysterau Dyfarniadau Galwedigaethol CBAC heddiw.