Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol Lletygarwch ac Arlwyo (Dyfarniad Technegol)
Cyflwynwch gais nawr ac ymunwch â'n tîm o arholwyr.
*Gan ddibynnu ar y pwnc, ac yn seiliedig ar farcio dyraniad llawn a chwblhau'r hyfforddiant (y cewch eich talu amdano).
Mae pecyn Ymgeiswyr ac Aseswyr ar gyfer cyflwyniad 2023/2024 bellach ar gael i'w lawrlwytho o'n gwefan ddiogel. Gellir dod o hyd i ganllawiau cam wrth gam i becynnau mynediad yma.
Bydd ein Dyfarniad Galwedigaethol mewn Lletygarwch ac Arlwyo yn meithrin gwybodaeth a dealltwriaeth myfyrwyr o'r sector Lletygarwch ac Arlwyo ac yn rhoi cyfleoedd iddynt feithrin sgiliau ymarferol cysylltiedig. Mae'n ymdrin â'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo a lletygarwch ac arlwyo ar waith.
Edrych ar ffiniau graddau cyfresi arholiadau’r gorffennol
Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol mewn Lletygarwch ac Arlwyo 978-1-86085-746-1 |
|
Mae’r llyfr hwn wedi’i ysgrifennu’n arbennig ar gyfer y cwrs Lefel 1/2 Dyfarniad Galwedigaethol mewn Lletygarwch ac Arlwyo. Mae’r gwerslyfr hwn yn addas i ddysgwyr o bob gallu, ac mae’n rhoi sylw i’r wybodaeth a’r sgiliau y bydd eu hangen ar ddysgwyr wrth iddynt ddilyn y cwrs.
Mae Alison Palmer wedi bod yn dysgu Technoleg Bwyd a Lletygarwch ac Arlwyo ochr yn ochr ag ystod o bynciau galwedigaethol ers ugain mlynedd. Mae Alison wedi gweithio i gorff dyfarnu mawr am bymtheg mlynedd ac mae wedi treulio nifer o’r blynyddoedd hyn fel prif arholwr a chymedrolwr ar gyfer dau gymhwyster. Yn ystod y cyfnod hwn, mae wedi bod yn gyfrifol am ddatblygu dwy fanyleb, gan gynhyrchu adnoddau a chyflwyno DPP ac asesiadau arholiad.
> Gall canolfannau archebu heddiw trwy lenwi'r ffurflen hon, neu gallwch archebu ar Amazon |
Mae wedi dod i'n sylw bod y testun hwn yn cynnwys y gwall canlynol:
Ar dudalennau 222 a 223 mae'n nodi y gellir defnyddio cyfrifiannell maeth i helpu i ateb y cwestiwn a ofynnwyd. Mae hyn yn anghywir. Er eglurder, ni chaniateir i ymgeiswyr ddefnyddio unrhyw adnodd i gefnogi eu hatebion ar gyfer cwestiynau ar gyfer 2.1.1 na 2.1.2.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a achosir gan y camgymeriad hwn a bydd yn cael ei gywiro mewn argraffiadau o'r testun a gyhoeddir yn y dyfodol.