Haf 2021: Deunyddiau i gefnogi Graddau wedi'u Pennu gan Ganolfannau i'w cael erbyn hyn
22/02/2021
Heddiw cyhoeddwyd canllawiau ychwanegol i gefnogi athrawon/darlithwyr wrth iddynt lunio Graddau wedi'u Pennu gan Ganolfannau manwl gywir yn haf 2021 ar gyfer cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru. Ym mis Ionawr, cadarnhaodd Kirsty Williams, AS, Gweinidog Addysg y dull i'w ddefnyddio i ddyfarnu graddau yn dilyn cau'r ysgolion a'r colegau. Lluniwyd y dull hwn ar sail argymhellion y Grŵp Ymgynghorol Dylunio a Chyflawni.
Mae'r deunyddiau isod ar gael ar ein gwefan gyhoeddus a'n Gwefan Ddiogel a byddant o gymorth i athrawon/darlithwyr wrth iddynt lunio Graddau wedi'u Pennu gan Ganolfannau eu dysgwyr. Bydd mwy o ddeunydd ar gael yn yr wythnosau i ddod. Mae'r deunydd hwn yn cynnwys hyfforddiant ac adnoddau'n ôl yr hyn a gyhoeddwyd ar ein llinell amser i ganolfannau.
Mae'r deunyddiau canlynol ar gael ar ein gwefan gyhoeddus - ewch i dudalen pob pwnc:
- Canllaw i Asesu Di-arholiad: canllaw i'r addasiadau a wnaed ar gyfer Asesu Di-arholiad yn haf 2021.
- Addasiadau i Gymwysterau: canllaw i'r addasiadau a wnaed i'r cynnwys a asesir yn haf 2021.
- Fframweithiau Asesu Cymwysterau Lefel Uchel: crynodeb o ofynion allweddol pob cymhwyster a chyngor am ddyfarnu graddau.
Gall athrawon/darlithwyr gael mynediad i’r dogfennau canlynol drwy ein Gwefan Ddiogel:
- Fframweithiau Asesu Cymwysterau Cychwynnol: crynodeb o ofynion allweddol pob cymhwyster, deunyddiau asesu i'w darparu gan CBAC, sut y gall dysgwyr ddarparu tystiolaeth o wybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth, a chyngor am ddyfarnu graddau.
- Canllaw i Greu Asesiadau CBAC: canllaw i athrawon i'w cynorthwyo â datblygiad deunyddiau asesu.
Yn ei sylw am y cyhoeddiadau hyn, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr, CBAC:
'Heddiw rydym yn cyhoeddi'r gyfran gyntaf o ddeunyddiau cefnogi i’w defnyddio gan athrawon/darlithwyr wrth iddynt gychwyn ar y broses o lunio Graddau wedi'u Pennu gan Ganolfannau sy'n adlewyrchu gwybodaeth a dealltwriaeth eu dysgwyr yr haf hwn.
'Mae ein timau wedi gweithio'n gyflym i lunio pecyn cynhwysfawr o ddeunydd cefnogi, ac yn yr wythnosau i ddod byddwn ni'n rhyddhau, dogfennau, hyfforddiant ac adnoddau pellach.
'Deallwn faint o her sy'n wynebu ysgolion a cholegau a'u dysgwyr. Bydd ein timau ni ar gael drwy gydol y broses hon i gynnig cefnogaeth i athrawon a darlithwyr yn yr amgylchiadau eithriadol hyn.
'Byddwn ni'n parhau i gydweithio â'r Grŵp Ymgynghorol Dylunio a Chyflawni wrth i drefniadau dyfarnu cymwysterau haf 2021, gan gynnwys y broses apeliadau, gael eu datblygu.
'Rydym yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth a chydweithrediad parhaus ein cymuned addysg. Byddwn yn parhau i gadw mewn cysylltiad ac yn cyfathrebu wrth roi'r dull newydd hwn o osod graddau ar waith eleni.
I weld y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i'n hardal haf 2021 ar y wefan, tanysgrifiwch i dderbyn ein bwletinau e-bost a dilynwch ein sianelau cyfryngau cymdeithasol i weld y diweddaraf o ran Cwestiynau Cyffredin, cyhoeddiadau a chysylltau i ddeunyddiau perthnasol.
Rydym yn croesawu unrhyw adborth gennych, felly os oes gennych unrhyw gwestiynau neu awgrymiadau, anfonwch e-bost at asesiadau2021@cbac.co.uk.