Cydnabod darpar wneuthurwyr ffilmiau ifanc yn 7ed seremoni'r Gwobrau Delwedd Symudol

Cydnabod darpar wneuthurwyr ffilmiau ifanc yn 7fed seremoni'r Gwobrau Delwedd Symudol

Mynychodd dros 750 o fyfyrwyr, athrawon a rhieni o ysgolion a cholegau ledled y DU ein seremoni rithwir gyntaf i ddathlu llwyddiant y cyfarwyddwyr, sgriptwyr ffilmiau a chynhyrchwyr ifanc talentog.

Mae'r Gwobrau Delwedd Symudol yn cydnabod ac yn gwobrwyo gwneuthurwyr a sgriptwyr ffilmiau mwyaf talentog y DU sy'n fyfyrwyr, gan annog mwy o bobl ifanc i ystyried gyrfa yn y diwydiant ffilm. Bob blwyddyn, gwahoddir myfyrwyr sy'n astudio ein cymwysterau mewn Astudiaethau Ffilm ac Astudio’r Cyfryngau i gyflwyno'u gwaith i gael ei ystyried gan banel o feirniaid, gyda gwobrau ar gyfer y Ffilm Orau, y Sgript Ffilm Orau a'r Fideo Cerddoriaeth Gorau. Eleni, rydym wedi croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr a gwblhaodd eu gwaith ond nad oedden nhw'n gallu cyflwyno'r asesiad di-arholiad i'w asesu yn 2020 oherwydd Covid19.

Max Roach, o Goleg Chweched Dosbarth Havering, Essex, enillodd y wobr am y Darn o Deledu/Ffilm Gorau a chafodd ei ddewis fel yr Enillydd Cyffredinol am ei ddarn creadigol o'r enw 'Lift-off'.

Mae ei ymgais yn canolbwyntio ar Samuel, sy'n darganfod bod cael trefedigaeth yn y gofod yn deffro cwestiynau am ei hun, ac am ei safbwyntiau ar arloesi ac archwilio yn y dyfodol.

Ar ôl ennill dwy wobr, dywedodd Max: “Mae'n teimlo'n gwbl anhygoel bod y tîm gwych a weithiodd ar y ffilm hon yn cael cydnabyddiaeth am eu gwaith syfrdanol. Nid yw gwobr yn ddim byd heb y tîm, yr atgofion a'r ymroddiad y tu ôl iddi. Mae Sara Pascoe ac Edgar Wright wedi bod yn ysbrydoliaeth enfawr i mi. Maen nhw'n rhannol gyfrifol am y rheswm rwyf wedi dewis astudio ffilm yn y lle cyntaf felly roedd eu clywed yn rhoi'r gwobrau i Lift-Off yn anhygoel. Roedd hefyd yn brofiad gwych gwylio'r ffilmiau rhagorol eraill yn cael eu sgrinio yn y digwyddiad, ond mae'n rhaid i mi ddiolch i Sean Stubbs-Tyler, ynghyd â'r staff Ffilm a Theledu anhygoel eraill yn HSFC, nid yn unig am ddweud wrthyf am y gwobrau ond hefyd am fod yn diwtoriaid ac yn fentoriaid gwych."

Dyma oedd gan Rebecca Ellis, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm, i’w ddweud am waith yr enillydd: "Roedd y panel beirniadu yn credu bod y darn hwn yn llawn dychymyg ac yn gwbl arloesol. Syniad uchelgeisiol sydd wedi'i lunio'n ofalus a'i gyflawni'n wych, gan roi sylw manwl i bob agwedd ar wneud ffilmiau. Enillydd teilwng ac ymgais ysbrydoledig i genedlaethau o fyfyrwyr cynhyrchu ffilmiau yn y dyfodol.

Enillwyr
Aeth gwobrau eraill i:

  • Ffilm Fer Orau – Antony Popov, o Goleg Ashbourne, Llundain.

Wedi'i ysbrydoli gan y ffilm Memento gan Christopher Nolan a'r syniad o golli'r cof, mae 'Continuum' yn dilyn person ifanc yn ei arddegau sydd ddim yn gallu cofio'r digwyddiadau yn arwain at ei ddamwain anochel.

Dywedodd y panel beirniadu fod gwaith Antony wedi'i gyflawni'n dda, gyda naratif arbrofol sy'n cydio yn y gwyliwr o'r dechrau i'r diwedd. I gloi, dywedon nhw ei fod yn enghraifft wych o sut i godi tensiwn.

  • Fideo Cerddoriaeth Gorau – Oliver Freelove, o Ysgol Myton, Warwick.

Gan gyfuno ffilmio byw ag animeiddio, mae'r fideo cerddoriaeth hwn ar gyfer 'Supersonics' gan Caravan Palace yn dangos ochrau hwyl a rhwystredig animeiddio.

Dywedodd ein panel beirniadu arbenigol fod 'Supersonics' yn dangos sgiliau technegol rhagorol mewn cynhyrchiad ysgafn creadigol iawn. Mae'r fideo cerddoriaeth yn uchelgeisiol yn cyfuno ffilmio byw ag animeiddio gyda chanlyniadau llawn dychymyg.

  • Sgript Ffilm Orau – Scarlett Balaguero o Goleg Bilborough, Nottingham.

Mae'r sgript ffilm hon, 'The Life of Death', yn ceisio datrys tarddiad Marwolaeth; mae natur ddynol y tu mewn iddo yn cael ei dinoethi wrth gyfarfod ei ddioddefwr nesaf, Joy, y mae ei chyflwr yn ei orfodi i dderbyn ei orffennol a phennu ei thynged.

Cafodd sgript ffilm Scarlett ei disgrifio gan ein panel beirniadu fel darn wedi'i strwythuro'n wych gyda deialog meddylgar ac ystyrlon. Roedd yn cynnig diwedd gwych a oedd yn ei dyrchafu i lefel arall.

  • 16 ac iau – Lola Cronin o Ysgol Ashlyns, Swydd Hertford

Mae'r ffilm sioe gerdd fer hon, 'The Interview', yn portreadu dau berson ifanc yn eu harddegau sy'n byw bywydau gwahanol iawn yn paratoi ar gyfer cyfweliad swydd drwy ganu a dawnsio.

Wrth drafod pam enillodd ‘The Interview’ y categori hwn, dywedodd ein panel beirniadu bod ceisio ysgrifennu a chreu sioe gerdd yn dasg enfawr ar y gorau, ond mae ceisio cyflawni hyn ar gyfer gwaith cwrs cynhyrchu TGAU yn rhywbeth arall. Mae ‘The Interview’ wedi'i gyflawni mewn modd argyhoeddiadol ac mae'n gadael y gwyliwr eisiau gweld mwy.

Gellir gweld y fideos buddugol ar ein sianel YouTube.

Siaradwr gwadd

Mae'r seremoni wedi'i chydnabod gan athrawon a darlithwyr cyrsiau ffilm a chyfryngau mewn sefydliadau ledled y DU, yn ogystal â ffigyrau blaenllaw yn y diwydiant ffilm. Eleni, roedd gennym griw gwych o siaradwyr gwadd, gan gynnwys Michael Sheen, Edgar Wright, Peter Lord, Jo Whiley, Sara Pascoe a llawer mwy.   

Dywedodd Anna Smith (beirniad ffilm a darlledwr), "Mae'r gwneuthurwyr ffilmiau hyn sy'n fyfyrwyr wastad yn creu argraff arnaf ac roeddwn wrth fy modd yn cyflwyno'r seremoni wobrwyo ar-lein. Llongyfarchiadau mawr i bob un o'r gwneuthurwr ffilmiau – gwaith gwych.”

Dywedodd Rebecca Ellis, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm CBAC Eduqas: “Roeddem yn falch iawn o allu gwobrwyo'r myfyrwyr eleni, er gwaethaf amgylchiadau mor anodd ac roeddem wrth ein boddau yn cael y cyfle i arddangos y gwaith gan bobl ifanc mor dalentog yn ein seremoni wobrwyo rithwir gyntaf erioed. Mae wedi bod yn fraint gweithio gyda'n panel anhygoel o gyflwynwyr sydd hefyd yn cydnabod pa mor anodd mae eleni wedi bod i'n pobl ifanc. Llongyfarchiadau mawr i'r rhai wnaeth gyrraedd y rhestr fer, ein henillwyr, a'r athrawon sydd yn amlwg wedi gweithio mor galed i gefnogi eu hymdrechion creadigol.”

 

Noddwyr
Hoffem ddiolch i'n noddwyr y British Film Institute, Golley Slater, Castell Howell Foods, Illuminate Publishing, KK Solutions, a My Company Clothing am eu cefnogaeth barhaus.

I gael rhagor o wybodaeth am y Gwobrau Delweddau Symudol, ewch i: https://www.gwobraudelweddsymudol.co.uk/