Cymwysterau Galwedigaethol a Chymwysterau 'Cyffredinol Eraill': Cyhoeddi trefniadau asesu
24/02/2021
Heddiw amlinellodd Llywodraeth y DU ei gynllun yn nodi sut bydd myfyrwyr sy'n dilyn Cymwysterau Galwedigaethol yn derbyn eu graddau yn yr haf. Gallwch ddarllen datganiad llawn yr Ysgrifennydd Addysg yma.
Mae prif bwyntiau'r cyhoeddiad fel a ganlyn:
- Bydd myfyrwyr sy'n astudio cymwysterau galwedigaethol a addysgir yn aml ynghyd â’r TGAU a Safon Uwch ar gwrs blwyddyn neu ddwy flynedd hefyd yn derbyn graddau a asesir gan athrawon yn hytrach na sefyll arholiadau.
- Gall athrawon ddefnyddio amrywiaeth o dystiolaeth wrth bennu graddau. Mae'r dystiolaeth hon yn cynnwys y dewis i ddefnyddio cwestiynau y bydd y byrddau arholi wedi'u darparu, yn ogystal â ffug-arholiadau, gwaith cwrs, neu waith arall a gwblhawyd yn rhan o gwrs disgybl, er enghraifft traethodau neu brofion ystafell ddosbarth.
- Bydd arholiadau ac asesiadau'n parhau yn y Cymwysterau Galwedigaethol lle mae eu hangen fel y gall myfyrwyr ddangos y safon broffesiynol sy'n ofynnol ar gyfer galwedigaet
- Bydd diwrnodau canlyniadau ar gyfer TGAU, Safon Uwch a rhai cymwysterau galwedigaethol yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos sy'n dechrau 9 Awst
I gael gwybodaeth am lwybr asesu cymwysterau Galwedigaethol a Chymwysterau 'Cyffredinol Eraill' CBAC (nad ydynt yn TAG/TGAU) – gweler ein dogfen 'Canllaw Asesu Cymwysterau Galwedigaethol a Chymwysterau Cyffredinol Eraill'.
Mae ein timau ar gael bob amser i gynnig cefnogaeth ac arweiniad i athrawon a darlithwyr a byddwn yn diweddaru ein gwefan a'r cyfryngau cymdeithasol cyn gynted ag y bydd unrhyw wybodaeth bellach ar gael.