Ffiniau Graddau 2026: Canllaw i bopeth
Rydych chi wedi clywed am y term "ffin gradd" fwy na thebyg, ond beth yn union yw ffiniau graddau? Mae'n siŵr bod gennych gwestiynau am hynny o hyd, pam maen nhw'n newid bob blwyddyn, sut maen nhw'n cael eu penderfynu a pha bryd y byddwn ni'n cyhoeddi ein ffiniau graddau?
Yn y canllaw hwn, rydym yn ateb popeth y mae angen i chi ei wybod am ffiniau graddau, gan eich helpu chi i ddeall sut maen nhw'n gweithio a beth maen nhw'n ei olygu ar gyfer eich canlyniadau.
Beth yw ffin gradd?
Ffiniau graddau yw'r nifer isaf o farciau y mae eu hangen i ennill pob gradd. Maen nhw'n sicrhau bod myfyrwyr yn derbyn yr un radd ar gyfer yr un lefel o berfformiad, pryd bynnag y caiff yr arholiad ei sefyll.
Er bod papurau arholiad yn cael eu hysgrifennu i'r un lefel o anhawster, maen nhw'n amrywio bob blwyddyn.
Pam mae ffiniau graddau yn newid bob blwyddyn?
Mae ffiniau graddau newydd yn cael eu pennu bob blwyddyn er mwyn dangos pa mor anodd oedd y papur arbennig hwnnw, ac i sicrhau nad yw'n haws nac yn anoddach cael gradd mewn unrhyw flwyddyn benodol.
Er enghraifft, os yw arholiad yn haws nag arholiad blynyddoedd blaenorol, yna bydd ffiniau graddau'r papur hwnnw yn uwch. Os yw'n arholiad anoddach, yna bydd y ffiniau graddau yn is.
Beth yw'r ffiniau graddau GMU?
Ar gyfer manylebau unedol, caiff ffiniau graddau eu trawsnewid yn Raddfa Marciau Unffurf (UMS). Mae ffiniau graddau GMU yn aros yr un fath bob blwyddyn gan nad yw amrediad y canrannau marciau GMU a ddyrennir i radd benodol yn newid. Mae ffiniau graddau GMU yn cael eu cyhoeddi ar lefel gyffredinol y pwnc a'r uned.
Gallwch weld ffiniau graddau unedau a'r wybodaeth am drawsnewid marciau crai yn farciau GMU yn ein trawsnewidydd graddau yma.
Pa bryd a sut mae ffiniau graddau'n cael eu penderfynu?
Unwaith y bydd y rhan fwyaf o'r papurau arholiad wedi'u marcio, bydd arholwyr ar lefel uwch ac arbenigwyr asesu yn pennu ffiniau graddau.
I bennu ffiniau graddau mae pob bwrdd arholi yn dadansoddi data perfformiad y garfan gyfredol o fyfyrwyr ac yn eu cymharu â data o flynyddoedd blaenorol. Y data hyn sy'n cael eu defnyddio i nodi ffiniau graddau posibl, sy'n dangos p'un a oedd yr arholiad ychydig yn anoddach neu ychydig yn haws i fyfyrwyr na'r flwyddyn flaenorol.
Yna, bydd arholwyr ar lefel uwch yn adolygu samplau gwaith myfyrwyr sydd wedi ennill marciau ar neu o gwmpas y ffiniau graddau posibl hyn. Caiff hyn ei gymharu wedyn â gwaith myfyrwyr o'r flwyddyn flaenorol a oedd ar yr un ffin gradd.
Byddan nhw'n astudio'r papurau hynny i benderfynu a yw safon y gwaith ar y radd bosibl yn briodol. Bydd arholwyr ar lefel uwch yn defnyddio'r dystiolaeth o'r gwaith archwilio hwn yn ogystal â'r data, i argymell ffiniau graddau terfynol.
Ydy ffiniau graddau'n wahanol rhwng byrddau arholi?
Ydyn - ar y cyfan mae ffiniau graddau'n wahanol rhwng byrddau arholi gan fod y graddio'n cyfleu lefel anhawster pob papur arholiad penodol.
Nid yw'r ffaith bod ffiniau graddau yn uwch gydag un bwrdd arholi o gymharu â bwrdd arholi arall yn golygu ei bod yn anoddach ennill gradd benodol. Awgrym yw hyn yn syml bod y papur arholiad wedi bod yn haws i'r myfyrwyr. Yn yr un modd, pan mae ffiniau graddau un bwrdd arholi yn is na rhai bwrdd arholi arall, dangos bod y papur yn anoddach mae hyn, yn hytrach na'i bod yn haws cael gradd uwch.
Ffiniau Graddau CBAC 2026
Caiff ein ffiniau graddau eu pennu yn dilyn y broses ddyfarnu a byddan nhw’n cael eu rhyddhau ar y diwrnodau canlyniadau.
Gallwch chi weld y ffiniau graddau ar gyfer eich cymwysterau ar ddiwrnod y canlyniadau yma.
Pryd mae’r diwrnodau canlyniadau?Mae canlyniadau CBAC yn cael eu rhyddhau dros dri diwrnod:
Dydd Iau 2 Gorffennaf 2026
- Llwybrau Mynediad
Dydd Iau 13 Awst 2026
- UG/Safon Uwch
- Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol
- Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch
- Project Estynedig
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio
- Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru)
Dydd Iau 20 Awst 2026
- TGAU
- Lefel 1/2 Dyfarniadau a Thystysgrifau Galwedigaethol a Thechnegol
- Lefel Mynediad
- Lefel 1/2 Tystysgrifau (Lladin a Mathemateg Ychwanegol)
- Llwybrau Ieithoedd
- Tystysgrif Her Sgiliau – Cymhwyster Bagloriaeth Cymru Cenedlaethol/Sylfaen
- Cymraeg Gwaith
- Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru)
Gobeithio bod y blog hwn wedi eich helpu i ddeall sut mae ffiniau graddau'n gweithio a pham maen nhw'n gallu newid o flwyddyn i flwyddyn. Cofiwch, bwriad ffiniau graddau yw sicrhau tegwch a chysondeb i bob myfyriwr.
Os ydych chi'n aros am ganlyniadau 2026, cofiwch gadw llygad ar ein gwefan ar ddiwrnod y canlyniadau i weld y wybodaeth ddiweddaraf am ffiniau graddau. Yn y cyfamser, cofiwch hefyd edrych ar ein blogiau myfyrwyr sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd i gael mwy o gyngor a chymorth ar ddiwrnod yr arholiad, adolygu a diwrnod y canlyniadau.