Cymwysterau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol CBAC mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, ac mewn Cymraeg Craidd, wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru
Rydym yn falch iawn o gyhoeddi bod ein cymwysterau Safon Uwch ac Uwch Gyfrannol newydd mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg, ac mewn Cymraeg Craidd, wedi'u cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru, i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2027 ymlaen.
![]() |
Wrth wneud sylw ar y datblygiad cyffrous hwn, dywedodd Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Datblygu Cymwysterau: “Mae'r cymwysterau hyn yn garreg filltir bwysig, ac rwy'n falch iawn ein bod bellach yn gallu eu rhannu. Wedi'u llunio yn sgil barn athrawon, dysgwyr a rhanddeiliaid drwy gydol y broses ddatblygu, maent yn gymwysterau deniadol, perthnasol a chadarn sy'n adeiladu ar sylfeini'r TGAU diwygiedig, gan gefnogi dilyniant i addysg uwch a helpu dysgwyr i ddod yn ddefnyddwyr hyderus a medrus o'r Gymraeg.” |
Gellir lawrlwytho'r manylebau cymeradwy o'r dudalennau we ganlynol:
Cymorth ac arweiniad ychwanegol
Er mwyn cefnogi cyflwyno'r cymwysterau hyn, byddwn yn cyhoeddi Deunyddiau Asesu Enghreifftiol ym mis Rhagfyr 2026 ac Arweiniad ar gyfer Addysgu ym mis Ionawr 2027.
Yn ogystal, rydym yn gweithio ochr yn ochr ag Adnodd i gynhyrchu set gynhwysfawr o adnoddau digidol rhad ac am ddim, y gellir eu teilwra i anghenion eich ystafell ddosbarth. Caiff hyn ei ategu ymhellach gan raglen o Ddysgu Proffesiynol, gan ddechrau gyda sesiynau briffio ar y manylebau newydd ym mis Tachwedd 2026.
Sicrhewch eich bod wedi tanysgrifio i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.
Cysylltu â ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'n Tîm Cymraeg:
02922 404 255
