UG/Safon Uwch Cymraeg Craidd - Dysgu o 2027
Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio
Mae’r cymhwyster UG mewn Cymraeg Craidd a Safon Uwch mewn Cymraeg Craidd yn rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu eu diddordeb a'u mwynhad o’r Gymraeg wrth iddynt:
• gyfathrebu'n effeithiol, yn glir, ac yn hyderus, ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a chyweiriau
• deall arwyddocâd pwrpas, cynulleidfa a chyd-destun wrth gyfathrebu, mynegi, dadansoddi, dehongli, deall ac ymateb i iaith
• ysgrifennu’n greadigol ac yn ffeithiol at amrywiaeth o bwrpasau
• dadansoddi testunau llenyddol ac anllenyddol; testunau cyfarwydd ac anghyfarwydd, yn annibynnol
• gwrando ac ymateb i farn eraill trwy gyfrwng rhyngweithio cymdeithasol gan gyfrannu'n ddigymell ac yn hyderus
• mynegi barn annibynnol, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth o destunau llenyddol ac anllenyddol
• gwneud cysylltiadau priodol rhwng gwahanol agweddau ar y pwnc a rhwng testunau.
Mae'r cymhwyster yn:
• hyrwyddo profiadau amrywiol, cadarnhaol, perthnasol a chyfoes o ddiwylliannau, cefndiroedd a chymunedau Cymraeg a Chymreig
• hyrwyddo profiadau amrywiol, cadarnhaol, perthnasol a chyfoes o ddiwylliannau, cefndiroedd a chymunedau Cymraeg a Chymreig
• rhoi cyfleoedd i ddysgwyr gael dealltwriaeth o ddatblygiad a statws y Gymraeg drwy ymwneud ag amrywiaeth o destunau, ac i ddeall y cyd-destunau ehangach sy'n effeithio ar y Gymraeg gan gynnwys cyd-destunau hanesyddol, cymdeithasol, gwleidyddol, sefydliadol a diwylliannol, ar lefel leol a chenedlaethol
• cefnogi dysgwyr i siarad a defnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn amrywiaeth o gyd-destunau ochr yn ochr â'u hastudiaethau; yn ogystal â chynnig sylfaen addas ar gyfer datblygu sgiliau Cymraeg yn y dyfodol mewn bywyd, astudiaethau pellach a gwaith
• rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o statws a defnydd y Gymraeg mewn gwlad ddwyieithog, ac i weld arwyddocâd eu cyfraniad i gymuned, cymdeithas a gweithle dwyieithog
• rhoi cyfleoedd i ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o ddiwylliannau a thraddodiadau Cymru.
Oes gennych chi gwestiwn?
Swyddog pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.