UG/Safon Uwch Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg - Dysgu o 2027

Dysgu: Medi 2027
Codau Cyfeirio Codau info
Mae’r cymhwyster UG mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg a Safon Uwch mewn Iaith a Llenyddiaeth Gymraeg yn rhoi cyfleoedd i Ddysgwyr i ddatblygu eu diddordeb a'u mwynhad o’r Gymraeg wrth iddynt:
  • gyfathrebu'n effeithiol, yn glir, ac yn hyderus, ar lafar ac yn ysgrifenedig mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd a chyweiriau
  • deall arwyddocâd pwrpas, cynulleidfa a chyd-destun wrth gyfathrebu, mynegi, dadansoddi, dehongli, deall ac ymateb i iaith
  • ysgrifennu’n greadigol ac yn ffeithiol at amrywiaeth o bwrpasau
  • dadansoddi testunau llenyddol ac anllenyddol, a thestunau cyfarwydd ac anghyfarwydd, yn annibynnol
  • gwrando ac ymateb i farn eraill trwy gyfrwng rhyngweithio cymdeithasol gan gyfrannu'n ddigymell ac yn hyderus
  • mynegi barn annibynnol, yn seiliedig ar wybodaeth a dealltwriaeth o amrywiaeth o destunau llenyddol ac anllenyddol
  • gwneud cysylltiadau priodol rhwng gwahanol agweddau ar y pwnc a rhwng testunau. 

Mae'r cymhwyster yn:
  • hyrwyddo profiad amrywiol, cadarnhaol, perthnasol a chyfoes o ddiwylliannau, cefndiroedd a chymunedau Cymraeg a Chymreig
  • rhoi cyfleoedd i Ddysgwyr gael dealltwriaeth o ddatblygiad a statws y Gymraeg drwy ymwneud ag amrywiaeth o destunau, ac i ddeall y cyd-destunau ehangach sy'n effeithio ar y Gymraeg gan gynnwys cyd-destunau hanesyddol, cymdeithasol, gwleidyddol, sefydliadol a diwylliannol, ar lefel leol a chenedlaethol
  • cefnogi Dysgwyr i siarad a defnyddio’r Gymraeg yn hyderus mewn amrywiaeth o gyd-destunau ochr yn ochr â'u hastudiaethau yn ogystal â chynnig sylfaen addas ar gyfer datblygu sgiliau Cymraeg yn y dyfodol mewn bywyd, astudio pellach a gwaith
  • rhoi cyfleoedd i Ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o statws a defnydd y Gymraeg mewn gwlad ddwyieithog, ac i weld arwyddocâd eu cyfraniad I gymuned, cymdeithas a gweithle dwyieithog
  • rhoi cyfleoedd i Ddysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o ddiwylliannau a thraddodiadau Cymru.
keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
photo of Manon Maddock
Oes gennych chi gwestiwn?
Manon Maddock
phone_outline 02922 404255
Swyddog Pwnc
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Manon Maddock