Ail Don y Canllawiau Addysgu Gwneud-i-Gymru bellach ar gael
![]() |
Bydd y deunyddiau hyn yn cefnogi athrawon a darlithwyr wrth iddynt baratoi ar gyfer cyflwyno'r cymwysterau newydd a chyffrous hyn yn hyderus, gan helpu i ysbrydoli ac ysgogi dysgwyr. Rwy’n hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a’r adborth adeiladol a roddwyd gan ein cymunedau addysgol drwy gydol y broses o ddatblygu’r cymwysterau hyn, a fydd yn cynnig profiadau dysgu newydd wedi’u teilwra i ddysgwyr ledled Cymru. |
Mae pob cymhwyster wedi'i ddylunio'n ofalus i gefnogi uchelgeisiau'r Cwricwlwm i Gymru, gan alluogi ysgolion a cholegau i deilwra eu haddysgu ar gyfer anghenion a diddordebau eu dysgwyr.
Yn ogystal â'r canllawiau hyn, mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn parhau i gyhoeddi adnoddau cefnogi rhad ac ddim i helpu i gyflwyno'r cymwysterau hyn. Bydd y pecyn hwn yn cael ei gyhoeddi gyda rhaglen eang o sesiynau Dysgu Proffesiynol wyneb yn wyneb, sydd ar gael i ysgolion a cholegau ledled Cymru yn ystod tymor y gwanwyn.”
Pwrpas y Canllawiau Addysgu
Mae ein dogfennau Canllawiau Addysgu wedi'u dylunio i gefnogi athrawon a darlithwyr wrth gyflwyno ein cymwysterau newydd. Maen nhw'n cynnig arweiniad ar ofynion y cymhwyster penodol a'r broses asesu. Ar ben hynny, bydd y dogfennau hyn yn eu cefnogi i nodi cyfleoedd i ymgorffori elfennau o'r Cwricwlwm i Gymru wrth gyflwyno'r cymwysterau hyn.
Bydd pob canllaw yn cynorthwyo athrawon a darlithwyr i ddatblygu cyrsiau ysgogol a chyffrous wedi'u teilwra i anghenion a sgiliau eu dysgwyr. Yn ogystal â hyn, maen nhw'n cynnig gweithgareddau posibl yn yr ystafell ddosbarth a chysylltau at adnoddau digidol defnyddiol (gan gynnwys ein deunyddiau digidol ein hunain, sydd ar gael yn rhad ac am ddim, a rhai o ffynonellau allanol) i roi syniadau ar gyfer gwersi diddorol ac atyniadol.
Mae'r Canllawiau Addysgu, ochr yn ochr â'r manylebau a'r deunyddiau asesu enghreifftiol wedi'u cymeradwyo ar gael i'w lawrlwytho o dudalennau'r pynciau canlynol:
TGAU
Cymhwyster nad yw'n TGAU
Adnoddau addasadwy RHAD AC AM DDIM a Dysgu Proffesiynol
I gefnogi cyflwyno'r cymwysterau hyn, byddwn yn cynhyrchu pecyn o adnoddau digidol addasadwy RHAD AC AM DDIM. Byddwn yn dechrau cyhoeddi'r deunyddiau o ddiwedd tymor yr hydref, mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy'r cyhoeddiad canlynol.
Ochr yn ochr â'r adnoddau hyn, rydyn ni hefyd yn cyflwyno amserlen wedi'i theilwra ar gyfer cyfleoedd Dysgu Proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb. Mae'r cyrsiau cenedlaethol hyn sy'n RHAD AC AM DDIM ar gael i ganolfannau ledled Cymru. Bydd pob cwrs yn cael ei gyflwyno gan arbenigwyr pwnc hyfforddedig a fydd yn rhoi cipolwg ar bob cymhwyster ac yn cynnig cyngor ac arweiniad pragmataidd. Mae rhagor o wybodaeth am y cyrsiau hyn, gan gynnwys ein Sioeau Teithiol Ledled Cymru ar gael yma.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf
I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y cymwysterau TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwneud i Gymru' ar y wefan. Mae'r adran hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, ac yn cynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd.
