5 awgrym i osgoi chwythu plwc (burnout) wrth adolygu ar gyfer Safon Uwch

Mae chwythu plwc o adolygu yn rhywbeth mae pob myfyriwr yn ei brofi ar rhyw bwynt – yn enwedig pan fydd arholiadau'n dechrau agosáu ac mae'r pwysau'n dechrau cynyddu.

Gallech chi eistedd i lawr gyda'r bwriad o fod yn gynhyrchiol, i ganfod eich hunain yn syllu ar yr un dudalen neu'n ail-ddarllen yr un frawddeg bedair gwaith cyn eich bod yn fodlon.

Beth yw chwythu plwc wrth adolygu a pham mae'n digwydd?

Yn syml – chwythu plwc wrth adolygu yw pan fyddwch chi'n teimlo wedi'ch llethu yn feddyliol ac yn gorfforol gan waith adolygu, i'r pwynt lle mae'n gynyddol anodd canolbwyntio a chynnal cymhelliant.

Y teimlad pan fyddwch chi'n eistedd wrth y ddesg yn ceisio adolygu, ond does dim byd yn mynd i mewn ac mae popeth yn teimlo'n ormod.

Mae llawer yn meddwl fod chwythu plwc ddim ond yn digwydd drwy adolygu gormod, ond nid yr oriau rydych chi'n ei wneud sy'n bwysig – fel arfer mae'n cael ei achosi gan gymysgedd o bethau'n cronni dros amser.

Er enghraifft, gall chwythu plwc ddigwydd o ganlyniad i:

·       Gwneud gormod heb ddigon o seibiannau

·       Pwysau mawr a disgwyliadau uchel

·       Dulliau adolygu aneffeithiol

·       Diffyg cydbwysedd gyda'ch bywyd cymdeithasol a gorffwys

 

Arwyddion eich bod eisoes wedi chwythu plwc

Fel y crybwyllwyd eisoes, nid yw chwythu plwc yn rhywbeth sy'n tueddu i ddigwydd i gyd ar yr un pryd – mae'n aml yn cronni dros amser.

I ddechrau, gall deimlo fel diffyg cymhelliant, ond drwy ei anwybyddu, gall ddechrau effeithio ar eich lefelau canolbwyntio, egni, a'ch meddylfryd cyffredinol at adolygu.

Un o'r arwyddion mwyaf cyffredin yw blinder cyson, hyd yn oed os ydych chi wedi cael digon o gwsg.

Arwydd mawr arall yw ei chael hi'n anodd canolbwyntio, hyd yn oed ar destunau sydd fel arfer yn weddol i chi. Gallech ganfod eich hun yn ail-ddarllen yr un paragraff drosodd a throsodd neu fod rhywbeth yn tynnu eich sylw chi'n hawdd.

Mae teimlo fel bod pethau'n ormod neu deimlo straen drwy'r amser yn arwydd allweddol arall. Yn hytrach na chael tasgau clir, mae popeth yn dechrau teimlo'n ormod i gyd ar unwaith.

Efallai y byddwch chi hefyd yn dechrau teimlo'n anniddig neu'n rhwystredig, naill ai gyda'ch gwaith neu'n gyffredinol, a gall pethau bach deimlo'n fwy trafferthus na'r arfer.

5 awgrym i osgoi chwythu plwc wrth adolygu ar gyfer Safon Uwch

 

1.     Cymryd seibiannau

Gall deimlo mai adolygu am oriau'n ddi-dor yw'r ffordd orau o fod yn gynhyrchiol, ond yn y bôn mae'r gwrthwyneb yn wir. Mae hynny oherwydd bod ein lefelau canolbwyntio'n gostwng ar ôl cyfnod amser penodol, felly mae sesiynau hir, heb strwythur yn aml yn arwain at chwythu plwc a gwastraff ymdrech.

Yn hytrach, rhannwch eich sesiynau'n adolygu'n rhai byrrach gyda ffocws, a seibiannau rheolaidd.

2.     Gwneud yn siŵr eich bod chi’n cael digon o gwsg (Wir!)

Cwsg yw un o'r rhannau pwysicaf (ac sy'n cael ei anwybyddu fwyaf) o adolygu effeithiol.

Gall aros ar eich traed yn hwyr i wneud mwy deimlo'n gynhyrchiol, ond mewn gwirionedd mae'n ei gwneud yn fwy anodd canolbwyntio ac i gofio gwybodaeth y diwrnod nesaf.

Mae cael digon o gwsg yn helpu eich ymennydd i brosesu a storio'r hyn rydych chi wedi'i ddysgu, felly gallwch chi gael mwy o'ch adolygu heb lethu eich hun.

Dysgwch sut i wneud y mwyaf o'ch cwsg yn ein blog yma.

3.     Rhoi amserlen adolygu realistig at ei gilydd

Gwall cyffredin yw creu amserlen adolygu sy'n rhy uchelgeisiol ac sy'n amhosibl ei chynnal. Gall stwffio eich diwrnod yn llawn oriau o adolygu diddiwedd deimlo'n gynhyrchiol, ond nid yw'n gynaliadwy.

Mae amserlen realistig yn cynnwys seibiannau a rhywfaint o amser rhydd, oherwydd mae'n well adolygu'n gyson am ychydig oriau bob dydd yn hytrach na llethu eich hun drwy geisio gwneud popeth ar unwaith.

Un o'r pethau gorau gallech chi ei wneud yw cynnwys ambell i 'am dro' cerdded i mewn drwy gydol y dydd ar wahanol adegau, i roi amser i glirio'r meddwl ac i ddod yn ôl i'ch adolygu'n teimlo'n ffres ac yn barod i ganolbwyntio.

4.     Peidio ag ynysu eich hun

Mae'n hawdd iawn teimlo bod angen i chi adolygu ar eich pen eich hun drwy'r amser, ond gall ynysu eich hun yn llwyr wneud y teimlad o chwythu plwc yn waeth.

Gall siarad â ffrindiau neu adolygu gyda'ch gilydd eich helpu i deimlo mwy o gefnogaeth ac yn llai fel eich bod wedi'ch llethu.

Nid oes rhaid i chi wneud popeth ar eich pen eich hun – weithiau mae rhannu'r profiad yn ei gwneud yn llawer haws ei reoli.

5.     Cymysgu'r dulliau adolygu

Mae'n anochel y gall adolygu'r un pwnc am oriau gan ddefnyddio'r un dull fynd yn ailadroddus ac yn flinedig yn sydyn.

Dyma pam rydyn ni'n argymell cymysgu pynciau a newid rhwng gwahanol dechnegau adolygu (megis cardiau fflach, cyn-bapurau, ac addysgu) gan fod hynny'n cadw pethau'n ddiddorol ac yn helpu i atal diflastod. 

 

Beth i'w wneud os ydych chi eisoes wedi chwythu plwc

Os ydych chi eisoes yn teimlo eich bod wedi chwythu plwc, y peth gwaethaf i'w wneud yw ceisio gorfodi eich hunain drwyddo drwy adolygu hyd yn oed mwy.

Dylech chi ganolbwyntio ar adnewyddu eich egni a mynd yn ôl i drefn sy'n gweithio.

Er enghraifft, cymryd egwyl go iawn! I ni, mae 'go iawn' yn golygu camu oddi wrth yr adolygu'n gyfan gwbl am ychydig oriau, neu hyd yn oed diwrnod cyfan os oes angen.

Nesaf, rhowch lai o bwysau ar eich hun gan ddechrau'n gynnil – mae 20-30 munud o adolygu drwy ganolbwyntio yn fan cychwyn da, hyd yn oed.

Mae hefyd yn helpu i symleiddio eich adolygu, gan ganolbwyntio'n unig efallai ar destunau allweddol a defnyddio dulliau gweithredol fel cardiau fflach neu gwestiynau ymarfer. Mae angen osgoi gorgymhlethu pethau.

Rydyn ni hefyd yn argymell siarad â rhywun – ffrind, aelod o'r teulu, neu athro, hyd yn oed.  Mae'n debygol y bydd dysgwyr eraill yn teimlo'r un fath (neu wedi ar un pwynt).

I weld blogiau eraill ynghylch adolygu a llesiant, cymerwch olwg ar ein blog llesiant myfyrwyr, gan gynnwys blogiau fel 'Llesiant: Archwilio a Dileu Straen', 'Sut i helpu ffrind sy'n ei chael yn anodd â'i iechyd meddwl', a 'Llesiant: Ymarfer Corff, Adolygu a Chi’.