Lefel 3 Project Estynedig

new_releases
e-Gyflwyno IAMIS

Am help gydag e-gyflwyno cliciwch yma.

Dysgu: Medi 2015
Codau Cyfeirio Codau info
  • Dogfennau Allweddol
  • Trosolwg
  • Hyfforddiant
  • Cysylltiadau

'Mae’r CPE, sy’n werth hanner lefel A, yn gynyddol boblogaidd gyda phrifysgolion gorau.  Mae Bryste, Manceinion, Southamption a Leeds ymhlith nifer cynyddol sy’n barod i ostwng eu gofynion gradd Safon Uwch os yw ymgeiswyr yn cael A neu A* am eu CPE.’- The Times, 3 Ionawr 2019

Mae ein Cymhwyster Project Estynedig Lefel 3 ar gael i ddysgwyr yng Nghymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, canolfannau Lluoedd Prydain Dramor a chanolfannau Prydain Dramor fel cymhwyster annibynnolCymhwyster un uned yw'r Project Estynedig sy'n cael ei asesu'n fewnol a'i safoni'n allanol.  Mae gan ganolfannau yr opsiwn o ddefnyddio'r llwyfan e-gyflwyno ar-lein, sy'n rhad ac am ddim ar gyfer y Project Estynedig.

Gall y Prosiect Estynedig ei ddatblygu o un neu ragor o raglenni astudio y dysgwr neu o bwnc o ddiddordeb personol.  Gall fod yn seiliedig ar amrywiaeth o fformatau a chyd-destunau, e.e. traethawd hir, astudiaeth maes, arteffact neu berfformiad.  Mae dysgwyr yn cael eu cefnogi drwy gydol y broses gan oruchwyliwr a rhaglen addysgu a dysgu.

Mae'r cymhwyster yn cynnig opsiynau amserlennu hyblyg i ganolfannau. Bydd gan ddysgwyr fwy o ddewis dros eu hastudiaethau nag erioed a chyfle i ddatblygu sgiliau trosglwyddadwy defnyddiol, sy'n cael eu gwerthfawrogi'n fawr mewn addysg uwch ac ym myd gwaith.  Mae natur hyblyg y cymhwyster hwn hefyd yn annog gweithgareddau trawsgwricwlaidd gan roi cyfleoedd i ryngweithio rhwng cyfadrannau ac adrannau o fewn y canolfannau. 

Bydd y cymhwyster Project Estynedig ar gael ar gyfer cyfres mis Mehefin yn unig ar gyfer pob canolfan.


E-Gyflwyno

Mae gwaith ymgeiswyr mewn unedau/cydrannau a asesir neu gymedrolir yn fewnol yn cael ei e-gyflwyno i CBAC ar gyfer y pwnc hwn. Bwriad CBAC o 2020 ymlaen yw i bob cyflwyniad Project Estynedig fod yn electroneg. Bydd mwy o wybodaeth ar gael maes o law. Am ragor o wybodaeth ac arweiniad am y broses ewch i'r dudalen we e-gyflwyno.

keyboard_arrow_down Darllen mwy keyboard_arrow_up Darllen llai
  • Cyrsiau i ddod
  • Cyrsiau ar alw
  • Deunyddiau o ddigwyddiadau blaenorol
photo of Glenda Kinsey
Oes gennych chi gwestiwn?
Glenda Kinsey ydw i
phone_outline 01443 845612
Rheolwr Cymwysterau
Mae ein tîm pwnc yn hapus i'ch helpu gyda'ch holl ymholiadau sy'n ymwneud ag addysgu a dysgu ein manylebau. Mae ein Swyddogion Pwnc yn athrawon profiadol ac maen nhw yma i'ch cefnogi chi i gyflawni ein cymwysterau. Cysylltwch â ni trwy e-bost neu ffôn.
Cydlynydd Tîm ar gyfer CGaTh a Darpariaeth Sgiliau
person_outline Emma Baldwin
phone_outline 01443 845612
Swyddog Cefnogaeth Bagloriaeth Cymru a Sgiliau
person_outline Nia Williams
phone_outline 01443 845612
Cysylltiadau Gweinyddu
Ar gyfer pob ymholiad mae'r tîm wrth law i helpu.
Cysylltwch
Oes gennych gwestiwn?
Glenda Kinsey