TGAU Celf a Dylunio
Bydd papur yr Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol yn cael ei ryddhau ar Porth ar 2 Ionawr. Sylwch, dim ond y Swyddog Arholiadau a Defnyddwyr cyfrifon eilaidd â’r mynediad priodol fydd yn gallu lawrlwytho’r Aseiniad wedi’i Osod yn Allanol. Mae modd trefnu mynediad i ddefnyddwyr eilaidd drwy eich Swyddog Arholiadau. Mae deunyddiau i’w cael dan Adnoddau > Tasgau Asesiadau Di-arholiad. Hidlyddion: Pwnc > Celf a Dylunio; Brand > CBAC; Lefel > TGAU; Math o ddogfen > Tasgau Asesiadau Di-arholiad; Blwyddyn > 2026
Haf 2026 fydd y cyfle olaf i asesu'r cymhwyster hwn yn llawn. Bydd cyfle i ailsefyll Uned 2 ym mis Ionawr 2027, os bydd galw am hynny.
O fis Medi 2025 ymlaen, ni ddylid cofrestru dysgwyr ar gyfer y cymhwyster hwn ym Mlwyddyn 10, dylid eu cofrestru ar gyfer TGAU Celf a Dylunio - Dysgu o 2025
Mae ein manyleb TGAU Celf a Dylunio yn cynnig profiadau dysgu i'r myfyrwyr sy'n ddiddorol, heriol, cydlynol ac ystyrlon gydag elfen o hyblygrwydd sy'n cefnogi datblygu arfer creadigol mewn ffordd ddilyniannol a chynyddol.
Drwy gyfrwng rhaglen astudio sy'n gwobrwyo ac yn ddeniadol, mae'r fanyleb hon yn ehangu profiad, yn datblygu'r dychymyg a sgiliau technegol, gan feithrin creadigrwydd a hybu datblygiad personol a chymdeithasol.
Arbenigwyr Datblygu Proffesiynol yn barod i ateb cwestiynau ar ein holl gyrsiau hyfforddiant
Map rhyngweithiol i gefnogi canolfannau sy'n dymuno rhannu profiadau a syniadau ar-lein ac wyneb yn wyneb.
Ewch i'n gwefan ddiogel er mwyn gweld deunyddiau unigryw nad ydynt ar gael ar y wefan hon.
Ffiniau gradd yw'r nifer lleiaf o farciau sydd eu hangen i gyflawni pob gradd.
Chw
Mai
Meh
