- - TGAU Gwneud-i-Gymru - Dysgu Proffesiynol
I gefnogi ein cyfres newydd o gymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig a wnaed i Gymru, rydym yn falch o gyhoeddi ein hamserlen newydd o gyfleoedd dysgu proffesiynol am ddim. Bydd y cyrsiau cenedlaethol hyn yn cael eu darparu gan ein Cynghorwyr Pwnc ar gyfer y llu cyntaf o gymwysterau, lle bydd yr addysgu'n dechrau o fis Medi 2025.
Dywedodd Nia Jones, Rheolwr Dysgu Proffesiynol: "Rydym yn falch o gynnig pecyn pwrpasol, cynhwysfawr o gyfleoedd dysgu proffesiynol ar-lein ac wyneb yn wyneb i athrawon ledled Cymru, gan eu galluogi i ddarparu ein cymwysterau newydd yn hyderus."
Nodwch nad yw TGAU Hanes wedi'i gynnwys yng nghyfres Dysgu Proffesiynol wyneb yn wyneb Ton 2. Gellir cyrchu deunyddiau o'r gyfres Paratoi i Addysgu a Pharatoi i Asesu TGAU Hanes (a gynhaliwyd yng ngwanwyn a hydref 2025 yn unol ag amserlen gymeradwyo wreiddiol Ton 1) drwy ein gwefan ddiogel, Porth.
- Ton 1
- Ton 2