- Cwestiynau Cyffredin
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- - TAAU gyda CBAC
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- - TAAU gyda CBAC
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol
- Cwestiynau Cyffredin
- Diweddariadau Diweddaraf
- Canllawiau Cyflym Ton 3
- Project Personol a'r Gyfres Sgiliau
- - TAAU gyda CBAC
- Cymwysterau Sylfaen Cyffredinol
- Cymwysterau Sylfaen Cysylltiedig â Gwaith
Mae TAAU (Tystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd) yn fath newydd sbon o gymhwyster Lefel 1/2 sy'n canolbwyntio ar waith i bobl ifanc 14-16 oed.
Mae pob cymhwyster TAAU hynod ymarferol yn canolbwyntio ar ddiwydiant hanfodol, a'i nod yw sicrhau bod dysgwyr yn meithrin y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i symud ymlaen i astudiaeth ôl-16, dysgu seiliedig ar waith neu gyflogaeth.
Gellir sefyll cymwysterau TAAU fel opsiwn arall neu i gyd-fynd â chymwysterau TGAU, a gellir eu hastudio ochr yn ochr â'n cymwysterau Cyfres Sgiliau newydd.
Ein Cymwysterau TAAU
![]() |
Lefel 1/Lefel 2 Adwerthu a Gwasanaeth Cwsmeriaid Gweld Canllaw Cyflyn |
![]() |
Lefel 1/Lefel 2 Amgylchedd Adeiledig Gweld Canllaw Cyflyn |
![]() |
Lefel 1/Lefel 2 Y Celfyddydau Perfformio Gweld Canllaw Cyflyn |
![]() |
Lefel 1/Lefel 2 Chwaraeon a Hamdden Gweld Canllaw Cyflyn |
![]() |
Lefel 1/Lefel 2 Cynhyrchu Creadigol a'r Cyfryngau, a Thechnoleg Gweld Canllaw Cyflyn |
![]() |
Lefel 1/Lefel 2 Gwasanaethau Cyhoeddus Gweld Canllaw Cyflyn |
![]() |
Lefel 1/Lefel 2 Lletygarwch ac Arlwyo Gweld Canllaw Cyflyn |
![]() |
Lefel 1/Lefel 2 Peirianneg Gweld Canllaw Cyflyn |
![]() |
Lefel 1/Lefel 2 Teithio a Thwristiaeth Gweld Canllaw Cyflyn |
Pam dewis CBAC ar gyfer TAAU?
- Mae gan CBAC dros 75 mlynedd o brofiad yn datblygu cymwysterau yn benodol i Gymru. Rydyn ni'n gweithio gyda dros 300 o ysgolion yng Nghymru bob blwyddyn, gan ddarparu asesiadau cywir, teg a hygyrch i bron 100,000 o ddysgwyr bob blwyddyn.
- Rydyn ni wedi cydweithio ag athrawon a rhanddeiliaid o'r byd addysg i gyd-greu ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru Ton 1 a Thon 2, a byddwn yn cymryd popeth rydyn ni wedi'i ddysgu o'r broses hon i sicrhau bod y cymwysterau Ton 3 hyn yn berffaith addas i athrawon a dysgwyr fel ei gilydd.
- Mae pob cymhwyster yn cael ei greu'n ddwyieithog o'r gwaelod i fyny, yn benodol i ddysgwyr yng Nghymru.
- Byddwn yn darparu'r pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth y byddech chi'n ei ddisgwyl gan CBAC, gan gynnwys adnoddau digidol o ansawdd uchel a chyfleoedd dysgu proffesiynol dan arweiniad arbenigwyr.
![]() |
|










