Cyfleoedd i lunio cymwysterau newydd ar gyfer y dyfodol

Yn dilyn cyfres lwyddiannus o weithdai cwmpasu, rydym yn datblygu ein cymwysterau lled-ddargludydd cyntaf: Paratoi ar gyfer cyflogaeth yn y diwydiant lled-ddargludydd.

 

Wedi'i anelu at unigolion ar ddechrau eu taith lled-ddargludydd, bydd y cymhwyster hwn yn:

  • cyflwyno unigolion i beth yw lled-ddargludyddion a pham eu bod yn bwysig
  • cynnwys amrywiaeth o unedau i ddysgwyr ddewis ohonynt
  • seiliedig ar gredydau a bydd wedi'i gynllunio i gael ei gyflwyno i ddysgwyr mewn unrhyw leoliad.

Ymunwch â'n Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau 

 

Rydym ar fin dechrau datblygu ac rydym yn chwilio am unigolion i ymuno â'n Grŵp Cynghori ar Ddatblygu Cymwysterau i'n cynghori, ein hysbysu a'n herio wrth i ni symud drwy'r broses o ddatblygu cymwysterau.

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â julie.rees@wjec.co.uk. Y dyddiad cau i fynegi diddordeb yw 15 Rhagfyr 2023.

 

Disgwylir i gyfarfod cyntaf y grŵp gael ei gynnal yr wythnos sy'n dechrau ar 18 Rhagfyr 2023, a chynhelir cyfarfod rhwng 4pm a 6pm.