Y Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC/JCQ) yn croesawu Ian Morgan fel Cadeirydd newydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr.

Y Cyd-gyngor Cymwysterau (CGC/JCQ) yn croesawu Ian Morgan fel Cadeirydd newydd Bwrdd y Cyfarwyddwyr.

Bydd Mr Morgan, Prif Weithredwr CBAC, yn cymryd yr awenau gan Derek Richardson a oedd eisoes yn Gyfarwyddwr i'r CGC. 

Mae rôl Cadeirydd Bwrdd y CGC yn cylchdroi'n flynyddol. Gorffennodd Mr Richardson, yr Is-lywydd a'r Uwch Swyddog Cyfrifol yn Pearson UK ei dymor blwyddyn ar 31 Awst 2021 a bydd yn parhau i weithio i'r CGC fel Cyfarwyddwr. 

Wrth sôn am ei benodiad, dywedodd Mr Morgan: 'Rwy'n falch o gael fy mhenodi fel Cadeirydd Bwrdd y CGC. Mae blwyddyn academaidd 2022 yn debygol o fod yr un mor heriol â 2020/21 wrth i ni weithio i ailsefydlu arholiadau, ac mae'r sector gyfan yn dal i wynebu heriau pandemig Covid-19. Rydym yn ymwybodol o'r heriau y mae ysgolion a cholegau'n eu hwynebu a bydd y CGC a'i aelodau yn ceisio darparu'r cymorth a'r cyngor y mae eu hangen arnynt i sicrhau tymor arholiadau llwyddiannus yr haf nesaf. 

'Hoffwn ddiolch i Derek am ei gyfraniad rhagorol fel Cadeirydd y Bwrdd y llynedd. Edrychaf ymlaen at weld pob un ohonom yn gweithio gyda'n gilydd ar yr heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r sector yn y flwyddyn i ddod.' 

Dyfarnu contract i ddatblygu'r Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru i CBAC
Dyfarnu contract i ddatblygu'r Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru i CBAC
Blaenorol
Athrawon, Swyddogion Arholiadau, uwch arweinwyr – ymweliadau â chanolfannau i gymedroli ac asesu yn 2022 – cofiwch ddweud eich dweud!
Athrawon, Swyddogion Arholiadau, uwch arweinwyr – ymweliadau â chanolfan...
Nesaf