Dyfarnu contract i ddatblygu'r Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru i CBAC
Mae'n bleser gennym gyhoeddi, yn dilyn proses dendro eang gan Cymwysterau Cymru, y dyfarnwyd y contract i ni i ddatblygu, cyflwyno a dyfarnu Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (Lefel 3).
Gan gyfeirio at y gamp sylweddol hon, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: "Ar ran CBAC, mae'n destun balchder mawr i ni ein bod wedi ennill y contract i ddarparu cymhwyster newydd Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru. Daeth hyn ar sail ein cronfa wybodaeth gref a'n profiad helaeth ac arbenigedd eang wrth ddatblygu, cyflwyno a dyfarnu cymwysterau.
'Fel y prif ddarparwr cymwysterau cyffredinol a galwedigaethol yng Nghymru, gyda'r contract hwn y daw cadarnhad pa mor ganolog yw ein rôl ni yn y byd addysg. Bydd modd i ni ddatblygu a chyflwyno cymhwyster i ddysgwyr Cymru sy'n newydd, yn arloesol ac yn ddynamig.
'Mae'r ffaith ein bod wedi ymwneud cyhyd â Bagloriaeth Cymru yn destun balchder mawr i ni. Rwyf yn hyderus felly y gallwn adeiladu ar ein gwaith da presennol a chyflwyno cymhwyster fydd ar flaen y gad yn y sector ac yn dod yn rhan annatod o gwricwlwm newydd Cymru.
Addysgir y cymhwyster newydd hwn am y tro cyntaf yn y canolfannau o fis Medi 2023. Bydd yr ardystiad cyntaf yn digwydd yn haf 2025. Y cymhwyster hwn fydd yn disodli'r Dystysgrif Her Sgiliau Uwch bresennol yn dilyn ymgynghoriad 'Cymwys ar gyfer y Dyfodol' Cymwysterau Cymru yn yr hydref 2020.
Bydd ffocws Bagloriaeth Sgiliau Uwch Cymru (Lefel 3) ar baratoi ar gyfer cyflogaeth, dysgu gydol oes a dinasyddiaeth weithgar. Anogir dysgwyr, yn rhan o'u hastudiaethau, i archwilio meysydd o ddiddordeb personol sy'n gysylltiedig â'u hastudiaethau a gyrfaoedd at y dyfodol.
Bydd ein timau ni yn dechrau yn awr ar y gwaith o ddatblygu'r cymhwyster newydd hwn. Bydd y tîm yn cydweithio â Cymwysterau Cymru a dewis o randdeiliaid allweddol, yn cynnwys cyflogwyr a sefydliadau addysg uwch, i lunio cymhwyster deniadol a dynamig a fydd yn sicrhau bod y cyfarpar a'r sgiliau gan y dysgwyr fydd yn eu galluogi i ffynnu mewn marchnad byd-eang.
Tanysgrifiwch i'n rhestr bostio i dderbyn gwybodaeth a diweddariadau.