Athrawon, Swyddogion Arholiadau, uwch arweinwyr – ymweliadau â chanolfannau i gymedroli ac asesu yn 2022 – cofiwch ddweud eich dweud!
Ydych chi'n uwch arweinydd, yn swyddog arholiadau neu'n athro/athrawes ar unrhyw un o'r cymwysterau CBAC canlynol? Os felly, cofiwch gymryd rhan yn ein harolwg a rhannwch eich barn am ymweliadau â chanolfannau i gymedroli ac asesu yn 2022:
- TGAU Dylunio a Thechnoleg (Dylunio Peirianyddol) Uned 2
- TGAU Dylunio a Thechnoleg (Ffasiwn a Thecstilau) Uned 2
- TGAU Dylunio a Thechnoleg (Dylunio Cynnyrch) Uned 2
- UG a Safon Uwch Dylunio a Thechnoleg (Dylunio Peirianyddol) Uned 2 ac Uned 4
- UG a Safon Uwch Dylunio a Thechnoleg (Ffasiwn a Thecstilau) Uned 2 ac Uned 4
- UG a Safon Uwch Dylunio a Thechnoleg (Dylunio Cynnyrch) Uned 2 ac Uned 4
- TGAU Drama Uned 2
- Safon Uwch Drama a Theatr Uned 3
- Safon Uwch Ffrangeg Uned 3
- Safon Uwch Almaeneg Uned 3
- Safon Uwch Sbaeneg Uned 3
- UG a Safon Uwch Cerddoriaeth Uned 1 ac Uned 4
- TGAU Addysg Gorfforol (Cwrs Llawn a Chwrs Byr) Uned 2
- UG a Safon Uwch Addysg Gorfforol Uned 2 ac Uned 4
- UG a Safon Uwch Cymraeg Iaith Uned 1 ac Uned 4
- UG a Safon Uwch Cymraeg Ail Iaith Uned 1 ac Uned 4
Wrth i ni ymgynghori â'r canolfannau ynghylch addasiadau i'n cymwysterau TGAU, UG a Safon Uwch ar gyfer haf 2022, gofynnwyd beth oedd eich barn am ymarferoldeb ymweliadau â chanolfannau yn 2022. O ganlyniad i hynny, rydym wedi penderfynu ymgysylltu ymhellach.
Terfyn amser cwblhau'r arolwg yw 14 Medi.
Rydym yn awyddus i sicrhau bod cyfle i bob athro/athrawes, swyddog arholiadau ac uwch arweinydd ddweud ei ddweud – mae eich barn chi'n bwysig i ni.
Gallwch weld gwybodaeth bellach, a phopeth y mae ei angen arnoch chi i gymryd rhan yn yr arolwg, ar ein gwefan ddiogel – yma.