TGAU newydd mewn Amgylchedd Adeiledig

TGAU newydd mewn Amgylchedd Adeiledig

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod ein TGAU mewn Amgylchedd Adeiledig ar gael i ganolfannau yng Nghymru i'w addysgu o Hydref 2021 ymlaen.  

Mae'r cymhwyster newydd hwn, a gymeradwywyd gan Gymwysterau Cymru, yn cyflwyno dysgwyr i'r amgylchedd adeiledig ac yn datblygu eu dealltwriaeth ohono. Bydd dysgwyr yn astudio'r crefftau a'r rolau o fewn yr Amgylchedd Adeiledig, yr offer, y technolegau a'r defnyddiau a ddefnyddir wrth ei adeiladu a'i gynnal a'i gadw, ynghyd â'r prosesau sy'n rhan o'r gwaith o'i ddylunio.  

Mae'r fanyleb a'r deunyddiau asesu enghreifftiol sydd wedi'u cymeradwyo ar gael i'w llwytho i lawr o'n gwefan.  

Wrth drafod ein cymhwyster newydd, dywedodd Allan Perry, Swyddog Pwnc ar gyfer Adeiladu:  

 "Fe wnaethom ddatblygu'r cymhwyster newydd hwn mewn ymgynghoriad ag arweinwyr sector ac arbenigwyr y diwydiant i sicrhau ei fod yn gosod y sylfeini i ddysgwyr ystyried gyrfaoedd gwahanol yn y diwydiant adeiladu. Yn ogystal, bydd y testunau a drafodir yn galluogi canolfannau sydd â chyfleusterau, adnoddau a sgiliau gwahanol ymhlith eu staff i ddarparu'r cymhwyster yn hyderus".  

Er mwyn cynorthwyo canolfannau wrth iddyn nhw gyflwyno'r cymhwyster newydd hwn, byddwn yn cynhyrchu amrywiaeth o adnoddau digidol rhad ac am ddim a chyfres o gyrsiau Dysgu Proffesiynol.  

I sicrhau eich bod yn derbyn y newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf, tanysgrifiwch i'n rhestr bostio

Cysylltu â ni 
Os oes gennych gwestiwn am y cymhwyster newydd hwn, cysylltwch â'n tîm pwnc: 

Allan Perry 
Swyddog Pwnc 
029 2040 4259 
adeiladu@cbac.co.uk 

Diweddariad Coronafeirws: Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar raddio cymwysterau
Diweddariad Coronafeirws: Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar raddio...
Blaenorol
Paratoi at Arholiadau: Yr Apiau a'r Gwefannau Gorau i Fyfyrwyr
Paratoi at Arholiadau: Yr Apiau a'r Gwefannau Gorau i Fyfyrwyr
Nesaf