Diweddariad Coronafeirws: Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar raddio cymwysterau

Diweddariad Coronafeirws: Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru ar raddio cymwysterau

Heddiw, cyhoeddodd Cymwysterau Cymru ganlyniadau ei ymgynghoriad ar drefniadau ar gyfer y cymwysterau cymeradwyedig TGAU, UG, Safon Uwch a Thystysgrifau Her Sgiliau yn yr haf.

O ganlyniad i'r ymgynghoriad, datganodd Cymwysterau Cymru bedwar nod i fod yn sail i'r model safoni ystadegol y bydd CBAC yn ei ddefnyddio i gyhoeddi graddau yn yr haf, er mwyn sicrhau bod pob dysgwr yn cael ei drin yr un mor deg. Y nodau yw:

  • Bydd pob dysgwr y cyflwynir graddau asesu canolfannau a threfn restrol ar lefel cymhwyster ar ei gyfer yn derbyn gradd;
  • Bydd canlyniadau cenedlaethol yn eithaf tebyg i'r hyn a gafwyd mewn blynyddoedd blaenorol er mwyn lleihau'r risg o annhegwch i ddysgwyr dros amser ac i gynnal hyder y cyhoedd;
  • Cyn belled ag y bo modd ni fydd y broses o ddyfarnu graddau'n anfanteisio dysgwyr, gan gynnwys y dysgwyr hynny sydd â nodweddion wedi'u hamddiffyn gan ddeddfwriaeth cydraddoldebau, a;
  • Bydd y model safoni'n defnyddio amrediad o dystiolaeth i gyfrifo'r graddau y byddai'r dysgwyr yn debygol o fod wedi'u cyflawni, pe byddent wedi gallu cwblhau eu hasesiadau.

Ni fydd dysgwyr unigol sy'n anfodlon â'u gradd yn gallu apelio i CBAC. Ond, mae proses ar gael sy'n golygu y bydd CBAC yn gallu ystyried apeliadau gan ganolfannau mewn rhai achosion.

Cofiwch fod ein holl dimau yn CBAC ar gael bob amser i'ch cefnogi chi yn ystod y cyfnod heriol hwn. Dylai athrawon gysylltu â'n timau perthnasol os oes ganddyn nhw unrhyw gwestiynau, byddan nhw'n barod iawn i gynnig cymorth.

Gwnewch yn siwr eich bod yn tanysgrifio i'n rhestr bostio i dderbyn y wybodaeth ddiweddaraf.

Awgrymiadau i fyfyrwyr sy'n paratoi i ddychwelyd i'r ysgol
Awgrymiadau i fyfyrwyr sy'n paratoi i ddychwelyd i'r ysgol
Blaenorol
Five ways our resources are supporting home learning
Pum ffordd mae ein hadnoddau'n cefnogi dysgu gartref
Nesaf