Sut i gefnogi eich plentyn drwy eu cymwysterau TGAU a Safon Uwch
P'un a yw eich plentyn yn dechrau ar eu cymwysterau TGAU, yn symud i Safon Uwch neu'n paratoi ar gyfer eu harholiadau terfynol, gall y cam hwn o addysg eich plentyn deimlo'n gyffrous ond yn heriol. Fel rhiant neu ofalwr, mae'n naturiol y byddwch eisiau eu cefnogi, ond nid yw gwybod y ffordd orau o helpu bob amser yn hawdd.
O annog arferion iach i'w helpu i gadw'n drefnus a bod yn rhywun i siarad â nhw, mae yna ddigon o ffyrdd syml y gallwch gefnogi'ch plentyn drwy eu cymwysterau TGAU a/neu Safon Uwch.
Dyna pam rydyn ni wedi llunio'r canllaw hwn, gan rannu ein hawgrymiadau defnyddiol i'ch helpu i'w cefnogi bob cam o'r ffordd.
6 ffordd o gefnogi eich plentyn drwy eu cymwysterau TGAU a Safon Uwch
-
Annog ffordd iach o fyw a threfn arferol iach
Un o'r ffyrdd gorau y gallwch gefnogi'ch plentyn drwy eu cymwysterau TGAU a'u Safon Uwch yw drwy annog ffordd iach o fyw a threfn arferol iach y gallant gadw atynt.
Gall cael digon o gwsg wella canolbwyntio, cof a ffocws eich plentyn, tra bod bwyta prydau cytbwys ac hydradu yn helpu i gadw lefelau egni i fyny trwy gydol y dydd.
Mae hefyd yn bwysig eich bod chi'n annog eich plentyn i gymryd seibiannau rheolaidd o adolygu a gwneud amser ar gyfer gweithgareddau maen nhw'n eu mwynhau, i helpu i atal chwythu plwc a lleihau straen.
-
Sicrhewch bod ganddynt amgylchedd astudio cadarnhaol gartref
Ffordd arall y gallwch gefnogi'ch plentyn yn ystod y cyfnodau hyn yw sicrhau bod ganddynt amgylchedd astudio cadarnhaol gartref. Nid oes angen swyddfa gartref bwrpasol neu offer drud arnynt, dim ond gofod tawel cyfforddus gyda golau da a chyn lleied o bethau i dynnu eu sylw â phosibl.
Gallwch hefyd helpu trwy sicrau fod gyn lleied o darfu â phosibl yn ystod sesiynau adolygu wedi'u cynllunio a'u hannog i gadw eu ffôn os yw'n debygol o dynnu eu sylw.
-
Cefnogwch, peidiwch â rhoi pwysau
Mae'n hollol naturiol y byddwch eisiau i'ch plentyn gyflawni'r graddau gorau posibl y gallant, ond gall gormod o bwysau weithiau gael yr effaith i'r gwrthwyneb.
Pan ddaw i adolygu, ceisiwch gadw cyfathrebu yn agored trwy ofyn sut maen nhw'n teimlo yn hytrach na gwirio yn gyson faint o adolygu maen nhw wedi'i wneud.
Gall ychydig eiriau o anogaeth fynd yn bell i roi hwb i'w hyder a'u cymhelliant.
-
Helpwch nhw i gadw'n drefnus
Gall cadw'n drefnus wneud gwahaniaeth mawr yn ystod cymwysterau TGAU a Safon Uwch, felly gall helpu'ch plentyn deimlo bod ganddynt fwy o reolaeth dros y llwyth gwaith eu helpu i gadw at y terfynnau amser ac osgoi cael eu llethu.
Er enghraifft, gallech eu helpu i greu amserlen adolygu neu eu hannog i ddefnyddio cynllunydd neu galendr digidol i olrhain dyddiadau pwysig.
Gall gwirio yn rheolaidd ar eu cynnydd – heb gymryd drosodd – hefyd helpu. Mae hyn yn ein harwain ni at ein pwynt nesaf…
-
Anogwch gyfathrebu agored a chymerwch ddiddordeb
Un o'r pethau mwyaf gwerthfawr y gallwch ei wneud yn ystod cymwysterau TGAU neu Safon Uwch eich plentyn yw rhoi gwybod iddyn nhw eich bod chi yno i'w cefnogi.
Gwiriwch gyda nhw'n rheolaidd a'u hannog i siarad yn agored am unrhyw bryderon neu heriau maen nhw'n eu hwynebu. Weithiau, gall cael rhywun a fydd yn gwrando wneud gwahaniaeth mawr.
-
Cynlluniwch wyliau o'u cwmpas
Yn olaf, mae'n bwysig eich bod yn cynllunio eich gwyliau a'ch digwyddiadau pwysig o amgylch cymwysterau TGAU a Safon Uwch eich plentyn.
Gall cyfnodau arholiadau fod yn brysur ac yn heriol, felly gall osgoi teithiau neu ymrwymiadau mawr yn ystod y cyfnod hwn eu helpu i ganolbwyntio ar eu hadolygu heb y pwysau ychwanegol o golli gwersi neu boeni am ddal i fyny.
Os ydych chi'n trefnu gwyliau, gwiriwch ddyddiadau tymor ysgol ac amserlen arholiadau eich plentyn ymlaen llaw lle bo hynny'n bosibl.
Cwestiynau Cyffredin i rieni/gofalwyr sy'n cefnogi eu plentyn drwy gymwysterau TGAU a Safon Uwch
Sut ydw i'n gwybod a yw fy mhlentyn yn cael trafferth yn yr ysgol/coleg?
Mae pob plentyn yn wahanol, ond mae rhai arwyddion cyffredin y gallant fod yn cael trafferth yn yr ysgol/coleg yn cynnwys mynd yn anarferol o encilgar, teimlo wedi'u llethu, colli cymhelliant, cael trafferth cysgu neu ddod yn fwy anniddig nag arfer.
Os ydych chi'n pryderu, ceisiwch gael sgwrs agored gyda nhw am sut maen nhw'n teimlo, a gallwch hefyd siarad â'u hathrawon/darlithwyr os ydych chi'n meddwl y gallai fod angen cymorth ychwanegol arnynt.
Sut alla i ysgogi fy mhlentyn i wneud gwaith cartref/adolygu?
I fod yn onest, y ffordd orau o ysgogi eich plentyn yw eu hannog a'u cefnogi, yn hytrach na rhoi pwysau arnynt. Helpwch nhw i greu amserlen gwaith cartref neu adolygu realistig a chanmol yr ymdrech maen nhw'n ei wneud.
Beth os nad yw fy mhlentyn yn cael y graddau yr oeddent yn gobeithio amdanynt?
Os nad yw eich plentyn yn cael y graddau TGAU neu Safon Uwch yr oeddent yn gobeithio eu cael, rhowch amser iddynt brosesu eu hemosiynau a gadewch iddynt wybod eich bod chi'n falch o'r ymdrech maen nhw wedi'i wneud. Byddwch yno gyda nhw i drafod eu camau nesaf.
Os nad yw'ch plentyn wedi cael y graddau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y brifysgol, gall y blog hwn helpu.
Am fwy o fewnwelediadau, edrychwch ar ein tudalen blog sy'n cael ei diweddaru'n rheolaidd.
Darperir cysylltau i wefannau allanol er gwybodaeth a hwylustod yn unig. Nid yw CBAC yn gyfrifol am gynnwys, cywirdeb, argaeledd na diogelwch gwefannau allanol ac nid yw'n cymeradwyo unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu wybodaeth a welir arnynt. Dylai defnyddwyr adolygu telerau a pholisïau preifatrwydd gwefannau allanol cyn eu cyrchu neu eu defnyddio.