Sut i gadw'ch pen cyn ac yn ystod arholiad?
Mae'n hollol normal teimlo ychydig yn nerfus cyn neu yn ystod arholiad, mae'n golygu eich bod chi'n awyddus i wneud yn dda! Drwy ddefnyddio'r egni hwnnw mewn ffordd gadarnhaol a defnyddio'r strategaethau isod, gallwch helpu eich hun i gadw'ch ffocws a mynd ati i wynebu eich arholiad â hyder.
Cyn eich arholiad dylech chi:
1. Flaenoriaethu eich cwsg
Mae sicrhau eich bod chi'n cael noson dda o gwsg y nosweithiau cyn eich arholiad a'r noson cyn eich arholiad yn bwysig. Mae cwsg yn sicrhau bod eich ymennydd yn cael amser i orffwys ac ailgychwyn ar ôl gweithgareddau bob dydd, gan gynnwys y gwaith caled o adolygu. Gall cael noson dda o gwsg wella'ch gallu i ganolbwyntio, cofio a rheoli'ch emosiynau.
2. Ymarfer technegau ymwybyddiaeth ofalgar
Mae ymwybyddiaeth ofalgar yn ddull pwerus i helpu i gadw'ch traed ar y ddaear a chadw'ch ffocws ar y presennol. Mae'n gallu helpu i dawelu'ch system nerfol a'ch cefnogi i feddwl mewn ffordd fwy rhesymegol yn hytrach na chaniatáu i feddyliau pryderus gymryd drosodd.
Mae technegau ymwybyddiaeth ofalgar yn cynnwys:
- Anadlu'n ddwfn ac yn araf
- Myfyrdodau tywysedig byr
- Ysgrifennu meddyliau neu bryderon mewn dyddiadur
3. Meddwl yn gadarnhaol
Yn hytrach na hel meddyliau am y senarios gwaethaf, gadewch i'ch hun ganolbwyntio ar y meddyliau cadarnhaol. Atgoffwch eich hun eich bod chi wedi gweithio'n galed ac wedi paratoi cystal ag y gallwch chi. Dywedwch wrthych eich hun nad yw'r teimlad yn golygu y byddwch chi'n gwneud yn wael, mae'n golygu ei fod yn bwysig i chi a'ch bod chi'n awyddus i wneud yn dda.
Yn ystod eich arholiad dylech chi:
1. Ddefnyddio technegau ymlacio
Mae llawer o ffyrdd i'ch helpu chi i leihau straen yn y neuadd arholiadau. Gallwch geisio anadlu'n araf ac yn ddwfn, neu ddefnyddio'r dechneg sylfaenu 5-4-3-2-1, lle rydych chi'n nodi:
- 5 peth y gallwch chi eu gweld
- 4 peth y gallwch chi eu teimlo
- 3 peth y gallwch chi eu clywed
- 2 beth y gallwch chi eu harogli
- 1 peth y gallwch chi ei flasu
Mae strategaethau ymwybyddiaeth ofalgar a sylfaenu yn ffyrdd defnyddiol o helpu'ch corff i fod yn bresennol a chadw'ch meddwl yn ddi-gynnwrf a dan reolaeth.
2. Peidio â chanolbwyntio ar yr hyn y mae pobl eraill yn ei wneud
Mae'n normal cymharu eich hun ag eraill, ond yn ystod arholiad gall hyn wneud i chi deimlo'n fwy pryderus. Peidiwch â gwylio pa mor gyflym mae pobl eraill yn gweithio neu faint o dudalennau maen nhw wedi'u cwblhau. Mae pawb yn gweithio ar gyflymder gwahanol. Y peth pwysicaf yw cymryd eich amser, darllen pob cwestiwn yn ofalus, a gwneud eich gorau wrth ateb.
3. Rheoli eich amser
Os ydych chi'n cael trafferth gyda chwestiwn, peidiwch â chynhyrfu. Symudwch ymlaen ac ewch yn ôl ato wedyn os yw hynny'n bosibl. Strategaeth dda yw rhannu'r papur yn adrannau llai a chanolbwyntio ar un cwestiwn ar y tro yn hytrach na'r arholiad cyfan. Gall hyn eich helpu i beidio â theimlo wedi eich llethu a chaniatáu ichi ddefnyddio'ch amser yn fwy effeithiol.
Am ragor o gefnogaeth a chyngor ar lesiant yn ystod eich arholiadau, edrychwch ar ein blogiau myfyrwyr ‘Sut i sicrhau’r cwsg gorau er mwyn cynnal patrwm cyson’ a 'Llesiant: Archwilio a chael gwared ar straen’.