Sut i ddod yn farciwr arholiadau yn y DU
Mae dod yn farciwr arholiadau, neu 'arholwr,' yn y DU yn ffordd werth chweil o ddyfnhau eich gwybodaeth am eich pwnc a chyfrannu'n uniongyrchol at y system addysg.
Yn y canllaw hwn, byddwn yn archwilio'r union beth mae rôl marciwr arholiadau yn ei gynnwys, sut gallwch chi ddod yn farciwr arholiadau, a'r hyn y gallwch ei ddisgwyl ym mhob cam – o wneud cais yr holl ffordd i farcio eich sgript gyntaf.
Beth yw rôl marciwr arholiadau?
Yn syml, rôl marciwr arholiadau yw asesu gwaith myfyrwyr yn gywir ac yn gyson gan ddefnyddio cynllun marcio penodol.
Mae marcwyr yn gyfrifol am gymhwyso'r cynllun marcio yn union fel yr hyfforddwyd, a gallant asesu arholiadau ysgrifenedig, gwaith cwrs, neu aseiniadau ymarferol yn dibynnu ar y pwnc a'r lefel astudio.
Yn CBAC, rydym yn darparu hyfforddiant a chefnogaeth helaeth, sy'n cynnwys dysgu am y systemau a'r prosesau mewnol ac ymgymryd â gweithgareddau marcio safonedig. Dysgwch fwy am yr hyn y mae marcwyr arholiadau dan hyfforddiant yn ei gael cyn iddynt ddechrau yn ein blog.
Sut ydw i'n gwneud cais i ddod yn farciwr arholiadau yn y DU?
Mae gwneud cais i fod yn farciwr arholiad yn y DU yn broses syml, yn enwedig os oes gennych brofiad blaenorol o addysgu neu asesu pwnc.
Mae'r broses o ddod yn farciwr arholiad yn y DU fel a ganlyn:
1. Sicrhau eich bod yn bodloni'r gofynion sylfaenol
Mae pob bwrdd arholi yn gosod gofynion cymhwysedd sylfaenol i sicrhau bod marcio yn gywir ac yn gyson.
Yn nodweddiadol, disgwylir i ymgeiswyr fod â gwybodaeth gref am y pwnc, profiad ymarferol o addysgu neu asesu, a'u bod yn byw yn y DU gyda mynediad at y dechnoleg angenrheidiol ar gyfer marcio ar-lein.
Ar gyfer CBAC yn benodol, y gofynion yw:
• Cymwysterau academaidd perthnasol: Dylai fod gennych gymwysterau academaidd addas yn y pwnc, er enghraifft gradd a chymhwyster addysgu.
• Profiad addysgu: Dylech fod yn athro/darlithydd presennol neu wedi ymddeol gyda phrofiad o addysgu ac asesu yn y pwnc a'r lefel rydych chi'n gwneud cais amdanynt.
• Byw yn y DU a mynediad at dechnoleg: Rhaid i farcwyr fyw yn y DU a bod ganddynt fynediad at gyfrifiadur gyda chysylltiad rhyngrwyd cryf sy'n bodloni gofynion system marcio ar-lein CBAC, h.y. bydd gennych chi eich cyfrifiadur/gliniadur Windows eich hun sydd â Windows 10 neu uwch a mynediad diogel at fand llydan.
• Tystiolaeth o arbenigedd: Bydd angen i chi hefyd ddarparu geirdaon neu dystiolaeth arall sy'n dangos eich cymhwysedd a'ch profiad yn y pwnc.
2. Cyflwyno cais ar-lein
Ar ôl i chi gadarnhau eich bod yn bodloni'r gofynion cymhwysedd, y cam nesaf yw cyflwyno cais drwy sianeli ar-lein swyddogol y bwrdd arholi.
Ar gyfer CBAC, dylid gwneud pob cais i fod yn Arholwr ar-lein drwy'r Porth Penodedigion. I gofrestru, mae angen i chi greu cyfrif drwy ddarparu eich enw llawn, cyfeiriad e-bost a dewis cyfrinair a chwestiwn diogelwch. Yna, byddwch yn derbyn enw defnyddiwr.
Gwnewch nodyn o'r enw defnyddiwr i allu bwrw ymlaen â chyflwyno eich cais llawn.
3. Cymeradwyaeth
Ar ôl cyflwyno'ch cais, bydd yn cael ei adolygu gan Arbenigwr Pwnc ac os yw'n llwyddiannus, bydd y bwrdd arholi yn eich rhoi mewn cronfa o arholwyr cymeradwy. Yna efallai y cysylltir â chi pan fydd cyfleoedd ar gael ar gyfer eich pwnc.
Mae'r broses ar-lein hon yn sicrhau mai marcwyr cymwys a dibynadwy sy'n cael eu recriwtio, gan gynnal safonau uchel ar draws pob asesiad. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael eich cydnabod fel rhywun sy'n addas ar gyfer y rôl a gallwch gael eich dewis pan fydd cyfleoedd marcio ar gael yn eich maes pwnc.
Mae hyn yn ein harwain at gam pwysig iawn, cam rhif 4…
4. Cwblhau hyfforddiant strwythuredig
Ni all arholwyr ddechrau marcio papurau arholiad heb gwblhau hyfforddiant strwythuredig a ddarperir gan y corff dyfarnu, wedi'i gynllunio i sicrhau bod marcio yn cyd-fynd â'r safonau y cytunwyd arnynt.
Er bod y manylion yn amrywio ychydig yn ôl pwnc a chymhwyster, mae hyfforddiant yn gyffredinol yn dilyn yr un camau craidd ar draws byrddau arholi y DU.
Mae camau allweddol hyfforddiant fel arfer yn cynnwys:
• Deall y cymhwyster
• Dysgu sut i gymhwyso'r cynllun marcio
• Safoni ac ymarfer marcio
• Hyfforddiant ar systemau marcio
Yn CBAC, mae hyfforddiant marcwyr arholiadau yn cael ei arwain gan uwch arholwyr ac arbenigwyr pwnc sydd â gwybodaeth fanwl o'r cymhwyster, yr amcanion asesu, y cynllun marcio a'r arferion gorau.
Rhaid cwblhau'r holl weithgareddau hyfforddi a safoni gofynnol yn llwyddiannus cyn i chi gael dechrau marcio byw.
5. Dechrau marcio papurau arholiad
Yn olaf, ar ôl i chi gwblhau hyfforddiant a safoni yn llwyddiannus, gallwch ddechrau marcio sgriptiau arholiadau byw.
Ar gyfer CBAC, mae llawer o'r pynciau yn cael eu marcio drwy system farcio ar-lein, sy'n eich galluogi i weithio o bell a rheoli eich amser eich hun o fewn terfynau amser penodol.
Bydd eich marcio yn cael ei fonitro drwy gydol y broses. Gall uwch arholwyr adolygu samplau o'ch gwaith i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn gyson â'r safon y cytunwyd arno.
Os oes angen, byddwch yn derbyn adborth neu arweiniad i'ch helpu i gadw ar y trywydd iawn. Mae'r system gefnogaeth hon wedi'i chynllunio i'ch helpu i deimlo'n hyderus yn eich gwaith marcio a sicrhau bod pob myfyriwr yn cael ei asesu'n deg.
Pa gymwysterau a phrofiad sydd eu hangen arnoch i ddod yn farciwr arholiadau yn y DU?
Yn gyffredinol, mae'r rhan fwyaf o fyrddau arholi (gan gynnwys CBAC), yn chwilio am y canlynol:
• Gradd neu gymhwyster cyfatebol yn y pwnc yr hoffech ei farcio, er mwyn sicrhau bod gennych ddealltwriaeth academaidd gref o'r cynnwys.
Dysgwch fwy am feini prawf arholwyr CBAC yma, a gallwch ddod o hyd i atebion i'ch holl gwestiynau yn ein Cwestiynau Cyffredin Penodedigion.
Mae ein tîm Penodedigion wrth law i ateb unrhyw ymholiadau sydd gennych am arholi gyda ni, felly mae croeso i chi ein ffonio ni ar 029 2026 5457 neu e-bostio Penodedigion@cbac.co.uk.