Sut i ddelio â gorbryder ynglŷn â mynd yn ôl i'r ysgol/coleg: 4 awgrym defnyddiol

Gall mynd yn ôl i'r ysgol/coleg ddod â llawer o emosiynau gwahanol, ac os ydych chi'n teimlo'n nerfus neu'n poeni am y flwyddyn ysgol newydd, nid ydych ar eich pen eich hun.  

Y newyddion da yw bod yna lawer o bethau y gallwch eu gwneud i ddelio â gorbryder ynglŷn â mynd yn ôl i'r ysgol/coleg, megis paratoi eich holl eitemau ysgol/coleg ymlaen llaw, siarad â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo, bod yn garedig â chi'ch hun a chofio bod y teimladau hyn yn normal ac yn aml dros dro. 

Yn y blog hwn, rydym yn edrych ychydig yn ddyfnach ar pam rydych chi'n teimlo'r emosiynau hyn ac yn rhannu rhai awgrymiadau ymarferol i'ch helpu i reoli gorbryder ynglŷn â mynd yn ôl i'r ysgol/coleg a theimlo'n fwy hyderus am ddychwelyd i'r ysgol/coleg. 

 

Pam ydw i'n nerfus i fynd yn ôl i'r ysgol/coleg? 

Mae teimlo'n nerfus ynglŷn â mynd yn ôl i'r ysgol/coleg yn llawer mwy cyffredin nag y byddech chi'n meddwl. Mae hyn oherwydd y gall blwyddyn ysgol/coleg newydd ddod â llawer o newidiadau, ac mae'r teimlad hwn o ansicrwydd yn aml yn achosi llawer o bryderon. 

P'un a yw'n dechrau grŵp blwyddyn newydd, dechrau pynciau hollol newydd, cael athrawon/darlithwyr newydd neu symud i ysgol/coleg gwahanol, mae'n hollol normal i deimlo ychydig yn ansicr ynglŷn â beth i'w ddisgwyl. Gall hyd yn oed newidiadau cadarnhaol deimlo'n llethol ar y dechrau, yn enwedig pan fyddwch chi'n rhoi cynnig ar rywbeth anghyfarwydd. 

Mae hyn yn ein harwain at brif pwrpas y blog hwn... 

 

4 awgrym ar sut i ddelio â gorbryder ynglŷn â mynd yn ôl i'r ysgol/coleg 

1. Gwnewch yn siŵr bod popeth wedi'i baratoi 

Gall trefnu syml fel pacio eich bag ysgol/coleg a pharatoi eich deunydd ysgrifennu eich helpu i deimlo bod ganddoch fwy o reolaeth a gwneud i'r diwrnod cyntaf deimlo'n llai llethol. 

Os ydych chi'n teithio i'r ysgol/coleg, cynlluniwch eich taith ymlaen llaw hefyd. P'un a ydych chi'n cerdded, yn cymryd y bws neu'n cael eich gollwng, gall gwybod eich llwybr a pha amser sydd angen i chi adael gael gwared ar straen ychwanegol o'ch bore. 

2. Canolbwyntiwch ar yr hyn rydych chi'n gallu ei reoli 

Mae'n hawdd cael eich llethu wrth boeni am lawer o wahanol sefyllfaoedd "beth os" cyn i'r flwyddyn ysgol/coleg newydd ddechrau, ond yn lle hynny, ceisiwch ganolbwyntio ar y pethau y gallwch eu rheoli. 

Er enghraifft, gallwch ddewis beth fyddwch chi'n ei wisgo ar eich diwrnod cyntaf, paratoi eich bag ysgol/coleg, penderfynu pa amser y byddwch chi'n gadael cartref yn y bore a hyd yn oed wneud cynllun ar gyfer eich gwaith cartref (os ydych chi wir eisiau bod yn barod!). 

3. Siaradwch â rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo am sut rydych chi'n teimlo 

Os ydych chi'n teimlo'n orbryderus am fynd yn ôl i'r ysgol/coleg, ceisiwch rannu sut rydych chi'n teimlo gyda rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo. Weithiau, gall siarad am yr hyn sydd ar eich meddwl wneud i'ch pryderon deimlo'n fwy rheoladwy, ac efallai y bydd y bobl rydych chi'n siarad a nhw'n gallu cynnig sicrwydd neu gyngor ymarferol. 

4. Byddwch yn garedig â chi eich hun a chofiwch na fydd y teimlad hwn yn para am byth 

Mae dechrau blwyddyn ysgol/coleg newydd yn addasiad mawr, felly mae'n hollol normal i deimlo'n bryderus neu'n nerfus am fynd yn ôl.  

Rhowch amser i chi'ch hun addasu a chofiwch y bydd pob diwrnod ysgol/coleg yn eich helpu i deimlo'n fwy sefydlog. Cyn hir, byddwch chi'n mynd yn ôl i drefn sefydlog. 

 

Sut gall rhieni neu ofalwyr helpu gyda gorbryder ynglŷn â mynd yn ôl i'r ysgol/coleg? 

Os ydych chi'n rhiant neu'n ofalwr, un o'r ffyrdd gorau y gallwch chi helpu yw gwrando a rhoi sicrwydd i'ch plentyn ei bod yn gwbl normal teimlo'n nerfus am fynd yn ôl i'r ysgol/coleg. 

Anogwch nhw i siarad am yr holl bryderon sydd ganddynt gyda chi, gan y gall rhannu eu meddyliau a'u teimladau eu helpu i brosesu eu hemosiynau a theimlo'n llai unig. Mae hefyd yn wych os gallwch eu helpu i gael eu hunain mewn trefn ymlaen llaw a'u cefnogi i fynd yn ôl i drefn reolaidd. 

Os nad yw eu gorbryder yn gwella neu'n dechrau effeithio ar eu bywyd bob dydd, siaradwch â'u hysgol/coleg fel y gallwch weithio gyda'ch gilydd i wneud yn siŵr eu bod yn cael y gefnogaeth sydd ei angen arnynt. 

 

Rydym yn gobeithio bod y blog hwn wedi eich helpu i ddeall bod teimlo'n nerfus am fynd yn ôl i'r ysgol/coleg yn hollol normal a bod yna ddigon o ffyrdd syml o reoli gorbryder ynglŷn â mynd yn ôl i'r ysgol/coleg.  

Os oedd y blog hwn yn ddefnyddiol i chi, archwiliwch ein blog cefnogi myfyrwyr am fwy o gyngor ar adolygu a llesiant i'ch helpu i deimlo'n hyderus trwy gydol y flwyddyn ysgol. 

Noder: Darperir cysylltau i wefannau allanol er gwybodaeth a hwylustod yn unig. Nid yw CBAC yn gyfrifol am gynnwys, cywirdeb, argaeledd na diogelwch gwefannau allanol ac nid yw'n cymeradwyo unrhyw gynhyrchion, gwasanaethau neu wybodaeth a welir arnynt. Dylai defnyddwyr adolygu telerau a pholisïau preifatrwydd gwefannau allanol cyn eu cyrchu neu eu defnyddio.