Cyhoeddi rhestr siaradwyr y 7fed Gwobrau Delwedd Symudol

Mae Michael Sheen wedi cael ei ychwanegu at restr o gyflwynwyr Gwobrau Delwedd Symudol

Mae Michael Sheen, seren Hollywood ac actor sydd wedi ennill gwobrau, wedi cael ei ychwanegu at y rhestr o gyflwynwyr gwadd yng Ngwobrau Delwedd Symudol eleni.

Yn ymuno ag ef bydd cast arbennig gan gynnwys Peter Lord (Aardman Animations), y comedïwr teledu Sarah Pascoe, a’r darlledwr enwog Jo Whiley – felly gwnewch yn siŵr eich bod wedi’i nodi yn eich calendr (dydd Llun 15 Chwefror, 2021) a bod y popgorn wrth law!

Wrth sôn am y digwyddiad, dywedodd Rebecca Ellis, Swyddog Pwnc Astudiaethau Ffilm CBAC: “Eleni, mae’n fraint gennym groesawu rhai cyflwynwyr gwadd arbennig iawn ochr yn ochr â chyflwynydd gwych y digwyddiad, Anna Smith (BBC, SKY, Podlediad Girls on Films). Rydyn ni wrth ein boddau bod Michael Sheen, a Peter Lord CBE ymhlith ein gwesteion ardderchog sy'n gwobrwyo gwaith myfyrwyr eleni. '

Mae'r seremoni wedi ennill cydnabyddiaeth gan athrawon a darlithwyr cyrsiau ffilm a'r cyfryngau mewn sefydliadau ledled y DU, yn ogystal â ffigurau blaenllaw yn y diwydiant ffilm.

Rydym yn falch iawn o'ch cyflwyno i'r gwesteion canlynol, a fydd yn ymuno â'n seremoni wobrwyo ar-lein eleni:

Anna Smith

Mae Anna Smith yn feirniad ffilm ac yn ddarlledwr. Mae hi'n feirniad ffilm rheolaidd ar gyfer BBC News, Sky News, BBC Radio, Time Out, Metro, The Guardian, Sight & Sound, Empire a mwy. Yn awdur, pyndit a chyflwynydd, mae hi'n cyfweld ag actorion ar lwyfan, ar sgrin ac mewn print yn rheolaidd. Cyn arbenigo mewn ffilm, Anna oedd y fenyw gyntaf i fod yn Olygydd ar gylchgrawn cerddoriaeth ddawns y DU, Wax. Ymroddodd ei hun i ysgrifennu am ffilmiau yn 2000 ac mae hi wedi dod yn gyfrannwr gwerthfawr i lawer o sianeli a chyhoeddiadau amlwg, ac mae hi wedi cael blas ar gyfnodau fel Golygydd Ffilm Time Out a Metro. Ar hyn o bryd hithau yw cyflwynydd y podlediad Girls on Film.

Edgar Wright 

Mae Edgar Howard Wright yn gyfarwyddwr, sgriptiwr, cynhyrchydd ac actor o Loegr. Mae'n fwyaf adnabyddus am ei drioleg o ffilmiau comedi, Three Flavours Cornetto, sy'n cynnwys Shaun of the Dead (2004), Hot Fuzz (2007), a The World's End (2013), a wnaed gyda'i gydweithwyr cyson, Simon Pegg, Nira Park a Nick Frost. Roedd Edgar hefyd yn cydweithio â nhw fel cyfarwyddwr y gyfres deledu, Spaced. Mae ei ffilm ddiweddaraf, 'Last Night in Soho', sy'n cynnwys seren The Queen's Gambit, Anna Taylor-Joy, yn cael ei rhyddhau yn hwyrach eleni.

Michael Sheen

Actor a chyfarwyddwr o Gymru yw Michael Sheen a gafodd ei hyfforddi yn RADA ac sydd wedi ennill sawl gwobr. Dechreuodd ei yrfa fel actor ar ôl ymddangos yn When She Danced gyda Vanessa Redgrave. Ymddangosodd mewn perfformiadau llwyfan arbennig yn Don't Fool With Love, The Seagull, The Homecoming, Henry V, Look Back In Anger, a Romeo and Juliet. Enillodd ei berfformiad yn Calligula dair Gwobr Olivier iddo, ac mae wedi serennu mewn cyfres o ffilmiau poblogaidd gan gynnwys The Twilight Saga: New Moon, Frost / Nixon, a The Damned United. Ar hyn o bryd mae'n ffilmio ail gyfres y ddrama heddlu gyffrous, The Prodigal Son.

Sara Pascoe

Mae Sara Pascoe yn ddigrifwr, actor ac awdur sydd wedi ennill sawl gwobr. Mae ei gwaith ar y llwyfan, ar sgrin ac mewn print yn cyfuno elfennau personol, gwleidyddol ac arsylwadol. Mae hi wedi ysgrifennu ei chyfres radio a'i chomedi sefyllfa (sitcom) BBC ei hun ac wedi perfformio ynddynt, mae hi'n awdur llwyddiannus, ac mae hi'n ymddangos yn rheolaidd mewn rhaglenni panel a chomedi. Fel digrifwr, mae Sara wedi perfformio ar Live at the Apollo a Stand Up for the Week, ac wedi cyflwyno fersiwn Dave o TED, Comedians Giving Lectures. Mae hi hefyd wedi ymddangos ar Taskmaster, QI, Have I Got News For You, 8 Out Of 10 Cats, a Mock the Week, ac ar The News Quiz a Just A Minute ar Radio 4. Ar hyn o bryd mae hi'n ymddangos yn Last Woman on Earth ac Out of Her Mind – mae'r ddau i'w gweld ar BBC iPlayer.

Jo Whiley

Wedi gweithio am 25 mlynedd gyda BBC Radio a chael profiad helaeth ar deledu oriau brig, Jo Whiley a roddodd Nirvana ar ein setiau teledu ac Arctic Monkeys ac Amy Winehouse ar ein radios. Roedd Jo yn cyflwyno Top of the Pops, ac yna daeth hi'n bersonoliaeth radio a theledu enwog. Fel rhan o newidiadau i'r orsaf, Jo Whiley oedd y fenyw gyntaf i gyflwyno rhaglen oriau brig oriau gyrru ers 20 mlynedd, pan ymunodd hi â Simon Mayo cyn cael llwyddiant â slot rhaglen gyda'r nos.

Peter Lord CBE

Mae Peter Lord yn animeiddiwr, cynhyrchydd a chyfarwyddwr a wnaeth gyd-sylfaenu Aardman Animations yn 1972. Mae'r stiwdio yn cynhyrchu ffilmiau animeiddio stop-symudiad, fel arfer gyda phypedau claimeiddio, ac ef sydd y tu ôl i ffilmiau adnabyddus fel Chicken Run, a gyfarwyddwyd gan Lord, Wallace and Gromit: Curse of the Were-Rabbit, Flushed Away, a Shaun the Sheep Movie, ynghyd â sawl project teledu a hysbyseb eraill. Yn 2012, cyfarwyddodd Lord ffilm stop-symudiad 3D cyntaf Aardman, The Pirates! Band of Misfits Mae Lord wedi goruchwylio ehangiad Aardman i VR a gemau cyfrifiadurol ac ochr yn ochr â'r cyd-sylfaenydd, David Sproxton, mae wedi gweddnewid y cwmni yn sefydliad sy'n cael ei arwain gan y gweithwyr.

Kate Leys

Mae Kate Leys yn olygydd sgriptiau prif ffilmiau sy'n gweithio ar brojectau ar bob cam o'r broses ddatblygu. Mae ei ffilmiau diweddar sydd wedi'u cwblhau yn cynnwys Benjamin gan Simon Amstell, Gŵyl Ffilmiau Llundain a'r DU 2019; How to Fake a War gan Rudolph Herzog 2019; American Animals gan Bart Laydon, Sundance a ledled y byd 2018; Pin Cushion gan Deborah Haywood, Venice 2017 a'r DU 2018; Kingdom of Us, ffilm ddogfen gan Lucy Cohen, Gŵyl Ffilmiau Llundain 2017 a Netflix. Mae hi hefyd yn gweithio'n anffurfiol gydag awduron a gwneuthurwyr ffilmiau i ddatblygu stori yn ystod y camau cynnar: rhai o'r projectau diweddar mae hi wedi cyfrannu atyn nhw yw Dark Horse ar gyfer Raw yn cynnwys Toni Collette; Do Not Hesitate ar gyfer Shariff Korver a Jolein Laarman; Lady Macbeth Toronto a Sundance 2017; I Am Not A Witch gan Rungano Nyoni Cannes a Llundain 2017; Dark River gan Clio Barnard Toronto, Llundain 2017. Cafodd Kingdom Of Us, Lady Macbeth ac I Am Not A Witch eu henwebu ar gyfer Ffilm Eithriadol Gyntaf Orau yn y BAFTAS yn 2018.

Sarah Gavron 

Y ffilm gyntaf y gwnaeth Sarah Gavron ei chyfarwyddo oedd Brick Lane, a enillodd Wobr Talent Alfred Dunhill iddi yng Ngŵyl Ffilmiau Llundain. Cyn hynny, gwnaeth drama hir gyntaf Gavron, This Little Life (ar gyfer y BBC a enillodd Gwobr Dennis Potter) ennill y BAFTA Teledu ar gyfer y Cyfarwyddwr Newydd Gorau, a Gwobr Newydd-ddyfodiad Gorau y Royal Television Society a'r Gwobrau Women in Film and TV. Yna cafodd ei dewis gan Variety fel un o'r deg cyfarwyddwr i gadw golwg amdanyn nhw yng Ngŵyl Ffilmiau Ryngwladol Sundance. Enillodd ei ffilm ddogfen The Village at the End of the World (2013) Gwobr Margaret Mead. Suffragette (2015), enillydd dwy o Wobrau Ffilmiau Annibynnol Prydain. Mae ei ffilm lwyddiannus fwyaf diweddar Rocks (2019) ar gael i'w gwylio ar Netflix.

Peidiwch â cholli allan! Defnyddiwch #GwobrauDelweddSymudol i ymuno â'r drafodaeth ar Twitter, pheidiwch ag anghofio dilyn ein sianeli cyfryngau cymdeithasol am y wybodaeth ddiweddaraf bob dydd


Twitter: @WJEC_CBAC@cbac_wjec / @eduqas
Instagram: @wjecforstudents / @cbacifyfyrwyr

Tystysgrif Her Sgiliau – trefniadau dyfarnu diwygiedig
Tystysgrif Her Sgiliau – trefniadau dyfarnu diwygiedig
Blaenorol
Diweddariad am asesu: Canllawiau am asesu dan reolaeth cymwysterau galwedigaethol
Diweddariad am asesu: Canllawiau am asesu dan reolaeth cymwysterau...
Nesaf