Diweddariad am asesu: Canllawiau am asesu dan reolaeth cymwysterau galwedigaethol

Diweddariad am asesu: Canllawiau am asesu dan reolaeth cymwysterau galwedigaethol

04/02/2021

Mewn ymateb i gau'r ysgolion a'r colegau ar hyn o bryd, parhad y cyfyngiadau iechyd y cyhoedd, a dysgwyr yn absennol oherwydd hunanynysu, cytunwyd y dylai ymgeiswyr gael cwblhau gwaith ar asesiadau dan reolaeth gartref, os yw'n saff ac yn ymarferol gwneud hynny. Rydym wedi llunio canllawiau i ganolfannau ynghylch y trefniadau i'w rhoi ar waith wrth ganiatáu i ymgeiswyr gwblhau asesiadau gartref. Mae'r canllawiau hyn yn berthnasol i’n cymwysterau Tystysgrif Lefel Mynediad, Llwybrau Mynediad, Lefel 1/2 Dyfarniadau Galwedigaethol  a Lefel 3 Tystysgrifau a Diplomâu Cymhwysol.