Tystysgrif Her Sgiliau – trefniadau dyfarnu diwygiedig
09/02/2021
Yn dilyn cyhoeddiad Cymwysterau Cymru a gan fod yr amharu’n parhau i addysgu a dysgu oherwydd y pandemig Covid-19, rydym wedi diwygio trefniadau dyfarnu cymwysterau’r Dystysgrif Her Sgiliau'r haf hwn.
Dyfernir gradd gyfannol i’r dysgwyr hynny sy’n ardystio eleni. Bydd y radd hon yn seiliedig ar y ffordd y maent wedi dangos pob un o’r sgiliau a asesir drwy’r Dystysgrif Her Sgiliau, pedair sgil ar lefel Cenedlaethol/Sylfaen a saith sgil ar lefel Uwch.
Nodwyd sawl llwybr gennym er mwyn cynnig nifer o opsiynau i’r canolfannau a pheth dewis o ran sut i bennu gradd gyfannol yn seiliedig ar lefelau’r sgiliau a ddangosir.
Anfonir gwybodaeth bellach i ganolfannau heddiw (09/02/2021).