Llongyfarchiadau i'r myfyrwyr sy'n casglu eu canlyniadau Ionawr 2026 heddiw

Bydd dysgwyr Cymru yn casglu eu canlyniadau dros dro ar gyfer cyfres arholiadau Ionawr heddiw. 

Yn ei sylw, dywedodd Ian Morgan, Prif Weithredwr CBAC: “Llongyfarchiadau i bob myfyriwr sy’n derbyn ei ganlyniadau heddiw. Dyma gyflawniad sy’n dystiolaeth o’u hymrwymiad a’u gwaith caled. Hoffem gydnabod ar yr un pryd y gefnogaeth a’r arweiniad anhygoel a gafwyd gan athrawon, darlithwyr, a thimau ledled y wlad. Mae’r ymroddiad ganddyn nhw yn rhywbeth sy’n gwbl hanfodol i lwyddiant y dysgwyr.” 

Canlyniad Dros Dro 

Cyhoeddwyd canlyniadau ar gyfer y lefelau canlynol: 

  • TGAU
  • Llwybrau Mynediad
  • Llwybrau Ieithoedd
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol / Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant (Cymru)
  • Cydrannau Her Sgiliau - Bagloriaeth Cymru
  • Dyfarniadau Galwedigaethol Lefel 1 / Lefel 2 (Dyfarniadau Technegol)
  • Lefel 3 Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch 

Gallwch weld y canlyniadau dros dro ar ein tudalen gwe Canlyniadau a Ffiniau Graddau

Gwasanaethau ar ôl y Canlyniadau ac Apeliadau 

Os yw dysgwr am gwestiynu'r marc a dderbyniodd, yna rydym yn ei gynghori i ddarllen yr arweiniad sydd ar gael ar y dudalen we ganlynol. Rhaid cyflwyno unrhyw gais drwy'r ysgol/coleg a byddan nhw'n gallu cynghori ynghylch y camau nesaf. 

Noder, gall ymgeiswyr preifat gysylltu'n uniongyrchol â'n timau i wneud cais am y gwasanaethau a nodir uchod. 

Gwybodaeth Bellach / Ymholiadau'r Cyfryngau:  
Jonathan Thomas 
Rheolwr Cysylltiadau Cyhoeddus a Brand 
jonathan.thomas@cbac.co.uk 
029 2026 5102