Lansio Adolygiad Blynyddol 2025-26: Blwyddyn o gynnydd, partneriaeth a llwyddiant

Rydym yn falch o rannu Adolygiad Blynyddol 2025/26, gan arddangos y cerrig milltir, y cyflawniadau a'r cynnydd rydyn ni wedi'u gwneud eleni.

Mae'r adolygiad yn adlewyrchu ein hymrwymiad parhaus i weithio mewn partneriaeth â'r gymuned addysg, gan helpu dysgwyr ledled Cymru i gyrraedd eu potensial llawn, a dathlu effaith yr hyn yr ydym wedi'i gyflawni gyda'n gilydd.

Yn ei sylwadau am yr Adolygiad Blynyddol, dywedodd y Prif Weithredwr, Ian Morgan:

Ian Morgan 1 (1)

"Mae'r Adolygiad Blynyddol eleni yn adlewyrchu blwyddyn wedi'i diffinio gan bartneriaeth ac ymgysylltu â'r gymuned addysg ledled Cymru, gan ddangos y gwaith eang sydd wedi'i wneud i ddatblygu ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru ac i gefnogi addysgwyr i'w cyflwyno'n hyderus. Yn anad dim, mae'n adlewyrchu ein hymrwymiad llawn i sicrhau bod gan bob dysgwr yng Nghymru fynediad at gymwysterau sy'n berthnasol, uchelgeisiol ac yn addas ar gyfer y dyfodol, oherwydd pan fyddwn yn gweithio gyda'n gilydd, rydym yn cyflawni mwy."

Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys:

Gwneud-i-Gymru: Cefnogi pob cam o'r daith: O ddatblygu cymwysterau i gyflwyno yn yr ystafell ddosbarth, mae ein dull o gyd-awduro yn sicrhau bod pob cymhwyster Gwneud-i-Gymru yn cael ei siapio gan arbenigwyr pwnc, a bod popeth sydd ei angen ar addysgwyr ganddynt i'w cyflwyno yn hyderus.

Cymuned wedi'i seilio ar ymddiriedaeth: Nid arwynebol yw ein perthynas ag ysgolion, colegau a chyrff addysg allweddol; maent yn bartneriaethau hirdymor sy'n seiliedig ar barch a chydweithrediadau ddwy ffordd, a gallant wneud gwahaniaeth sylweddol.

Pobl sydd wrth wraidd popeth a wnawn: Mae buddsoddi yn ein timau yn ganolog i'r ffordd rydyn ni'n gweithio, a chydnabyddwyd hynny eleni gyda gwobr arian Cyflogwr y Flwyddyn Buddsoddwyr mewn Pobl y DU.

Gallwch lawrlwytho’r Adolygiad Blynyddol yma.

Byddem yn ddiolchgar am eich adborth, naill ai drwy e-bost neu drwy gyfryngau cymdeithasol – gan ddefnyddio #CBACAdolygiadBlynyddol.

Cofrestrwch ar gyfer ein bwletinau e-bost i dderbyn y newyddion diweddaraf am ein gwaith a dilynwch ni ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf.

Sut i ddewis eich opsiynau ym Mlwyddyn 9: Awgrymiadau ar gyfer myfyrwyr
Nesaf