Gwobrau Arloesedd CBAC yn arddangosiad o dalent myfyrwyr Cymru

Mae dyfeiswyr ifanc mwyaf addawol Cymru wedi'u cydnabod am eu syniadau creadigol yn ein Gwobrau Arloesedd blynyddol, a gynhaliwyd am y 25ain tro eleni.  

Cynhaliwyd y Gwobrau Arloesedd, wedi'u datblygu mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, yn yr adeilad Pierhead ym Mae Caerdydd ar 18 Rhagfyr, gan ddathlu dylunio a thechnoleg yng Nghymru gan hefyd gydnabod a gwobrwyo'r genhedlaeth nesaf o arloeswyr. 

Fel yn y blynyddoedd blaenorol, roedd Gwobrau Arloesedd eleni yn annog pobl ifanc yng Nghymru i fod yn arloesol yn dechnolegol ac i werthfawrogi pwysigrwydd dylunio a thechnoleg. Roedd hefyd yn adlewyrchiad o lwyddiant dyfeiswyr Cymru ac mae'n cydnabod eu cyfraniadau. Mae rhai o ddyfeisiadau mwyaf arloesol y byd wedi dod gan ddyfeiswyr o Gymru, megis yr anadliedydd electronig, cychod RIB a'r meicroffon modern. 

Nid oedd dyfeisiadau eleni yn wahanol, ac roedden nhw'n cynnwys 'goleufa beic' a all ddatrys sialens ddyddiol i feicwyr, 'traciwr cyflymiad cychwyn o'r blociau' sy'n cynnig datrysiad symudol a hawdd a ddatblygwyd i'w integreiddio mewn system bresennol a 'fflerau tragwyddol' sy'n nodi datrysiad arloesol a diogel i unigolion sydd mewn sefyllfa heriol.  

Enillodd Lewis Barnes, myfyriwr o Ysgol Gyfun Brynteg, y gwobr cyntaf ar gyfer UG a'r Enillydd Cyffredinol am ei ddyluniad arloesol o 'traciwr cyflymiad cychwyn o'r blociau'. 

 

 
Wrth siarad am ei fuddugoliaeth, dywedodd Lewis: “Rwyf wedi gwneud traciwr cyflymiad ar gyfer sbrintwyr. Yn syml, mae’n defnyddio ril sy’n dod o gefn y blociau cychwyn. Mae hefyd yn defnyddio seinydd i gychwyn yr athletwyr, a phan fyddan nhw’n cychwyn, mae’n tracio’r cyflymiad ar ap a ddyluniais ar ffôn yr hyfforddwr neu’r defnyddiwr. Rwyf innau’n sbrintiwr fy hun, felly cefais fy ysbrydoli i ryw raddau gan y problemau rwy’n eu hwynebu wrth ymarfer o ddydd i ddydd. Mae ennill y wobr hon yn hwb mawr. Bydd o gymorth wrth wneud ceisiadau ar gyfer y brifysgol, ac mae’n fy nghymell gyda fy mhrojectau Safon Uwch. Hoffwn ddiolch i fy athro Dylunio a Thechnoleg, Mr Harper, a fy rhieni. Nhw sy’n rhoi’r syniadau a’r holl gymorth i mi”. 

Mae enillwyr eraill yn cynnwys Huw Davies o Ysgol Uwchradd Aberteifi yn y categori Safon Uwch am ei ddyluniad â'r teitl 'fflerau tragwyddol' a Henry Farr o Ysgol Uwchradd y Trallwng yn y categori TGAU am ei ddyluniad 'goleufa beic'. 

Enillwyr y Gwobrau 2025 

Safon Uwch 

1af – Huw Davies, Ysgol Uwchradd Aberteifi 

2il – Dylan Draper, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Ioan Fedyddiwr 

3ydd – Madison Burgess, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern 

Safon UG 

1af – Lewis Barnes, Ysgol Gyfun Brynteg 

2il – Gruffudd Thomas, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern 

3ydd – Lucy Moyes, Ysgol Bro Pedr 

TGAU 

1af – Henry Farr, Ysgol Uwchradd y Trallwng 

2il – Glesni Rees, Ysgol Bro Pedr 

3ydd – Matthew Evans, Ysgol Bro Preseli 

Gwobrau Eraill 

Gwobr Creadigrwydd – Mari Lois Williams, Coleg Meirion-Dwyfor, Pwllheli 

Gwobr Eiddo Deallusol – Tegid Harper, Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern 

Gwobr Gwyddoniaeth – Alfie Smith, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf 


Mae lluniau o'r digwyddiad ar gael i'w gweld 
yma

 


Dywedodd Ian Morgan, ein Prif Weithredwr:  

"Y Gwobrau Arloesedd yw un o'r digwyddiadau mwyaf arwyddocaol yn ein calendr, ac mae wir yn anrhydedd arddangos y talent anhygoel sy'n dod o ysgolion ar draws Cymru. Mae safon y creadigrwydd, sgiliau datrys problemau a thechnegol a welwyd eleni yn rhagorol. 

“Llongyfarchiadau mawr felly i bawb a gymerodd ran, ac wrth gwrs ein henillwyr. Mae'r ymrwymiad, dychymyg a'r ymdrech y tu ôl i'r projectau hyn wir yn ysbrydoledig. 

"Wrth i Gymru edrych i gryfhau ei safle mewn byd sy'n fwyfwy cystadleuol, bydd pwysigrwydd rôl dylunio a thechnoleg yn parhau i dyfu. Mae'r syniadau a welwyd yn y gwobrau hyn yn dangos pa mor ddisglair yw'r dyfodol, ac rwy'n edrych ymlaen i weld ble fydd yr arloeswyr ifanc hyn yn mynd â'u talentau nesaf." 


Dywedodd Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg:
 

"Llongyfarchiadau i bawb gafodd eu cydnabod yn y gwobrau hyn. Mae eich cyflawniadau'n adlewyrchu ansawdd rhagorol y talent dylunio a thechnoleg sydd gennym ni yma yng Nghymru. Dyma sector sy'n ysbrydoli creadigrwydd, sbarduno arloesedd, a datblygu'r sgiliau ymarferol sy'n hanfodol i'n heconomi a'n cymunedau. 

“Mae addysg dylunio a thechnoleg yn rhoi'r hyder i bobl ifanc ddatrys problemau bywyd go iawn, a'r uchelgais i lywio dyfodol Cymru. Rwyf am ddiolch i bawb – dysgwyr, athrawon, partneriaid yn y diwydiant a theuluoedd – am eich ymrwymiad a'ch angerdd yn y maes hwn. 

"Nid dathliad yn unig yw'r gwobrau hyn, ond rhywbeth i atgoffa am rôl hanfodol y ddisgyblaeth hon wrth adeiladu cenedl lewyrchus a dynamig sy'n edrych ymlaen." 


Am rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth, ewch ar y dudalen Gwobrau Arloesedd.