Gwneud y gorau o'ch dogfennau cefnogi cymwysterau

Mae athrawon/darlithwyr ledled Cymru yn brysur yn paratoi i gyflwyno ein cyfres newydd o gymwysterau Gwneud-i-Gymru, lle bydd addysgu yn dechrau ym mis Medi. Ar ôl iddynt gael eu cymeradwyo gan Cymwysterau Cymru yn nhymor yr hydref, mae ein timau pynciau wedi cynhyrchu cyfres o ddogfennau cefnogi, i gynorthwyo'r gwaith o baratoi a chyflwyno'r cymwysterau newydd cyffrous hyn.  

Mae Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu Cymwysterau, yn rhoi trosolwg o'r dogfennau cefnogi hyn, yn esbonio sut y dylid eu defnyddio, ac yn tynnu sylw at y gefnogaeth unigryw y mae CBAC yn parhau i'w darparu i sicrhau bod athrawon yn gallu cyflwyno'r cymwysterau hyn yn hyderus.

Ar gyfer pob cymhwyster, rydym yn darparu tri math o ddogfen, a fydd yn cynorthwyo'r gwaith o'u cyflwyno: Manyleb, Deunyddiau Asesu Enghreifftiol a Chanllawiau Addysgu. Mae'r dogfennau hyn yn darparu fframwaith cynhwysfawr y gall athrawon/darlithwyr ei ddefnyddio i sicrhau y caiff y cymhwyster ei gyflwyno'n llwyddiannus.  



Manyleb

Y Fanyleb yw'r brif ddogfen sy'n esbonio'r strwythur, y cynnwys a'r asesu ar gyfer y cymhwyster.Mae pob Manyleb yn dechrau gyda chrynodeb o'r asesu a fydd yn amlinellu sut caiff pob uned ei hasesu a'i phwysoli, gan nodi a yw'r cymhwyster yn unedol neu'n llinol, â haenau neu'n ddi-haen, a phryd bydd asesiadau ar gael. 

Yna mae ein Manyleb yn darparu dadansoddiad o gynnwys y pwnc, gan ddisgrifio'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth y dylid eu haddysgu ac y gellid eu hasesu. Maent hefyd yn cynnwys gwybodaeth allweddol fel amcanion asesu a phwysoli, trosolwg o'r trefniadau ar gyfer asesu di-arholiad a gwybodaeth dechnegol sy'n ymwneud â chofrestru, graddio, dyfarnu ac adrodd yn ôl. Ar gyfer cymwysterau unedol, bydd y fanyleb yn esbonio'r rheol derfynol a'r trefniadau ailsefyll. 



Deunyddiau Asesu Enghreifftiol  

Mae'r Deunyddiau Asesu Enghreifftiol yn rhoi enghreifftiau o'r mathau o dasgau a chwestiynau a allai ymddangos yn yr asesiadau byw. Bydd y Deunyddiau Asesu Enghreifftiol yn rhoi enghreifftiau o wahanol fathau o gwestiynau y gellir eu cynnwys mewn asesiad, yn dangos sut y gall asesiad edrych i helpu dysgwyr i ymgyfarwyddo â hyn, ac yn dangos cynlluniau marcio i esbonio sut bydd y gwaith yn cael ei asesu. Mae gwahanol fathau o Ddeunyddiau Asesu Enghreifftiol: 

  • Asesiad drwy arholiad – bydd hwn yn enghraifft o bapur arholiad 
  • Asesiad di-arholiad – rydym yn cyhoeddi pecyn asesu a fydd naill ai: 
  • yn becyn asesu go iawn, os yw'r asesiad di-arholiad yn aros yr un fath am oes y cymhwyster 
  • yn enghraifft o becyn asesu, os yw tasgau'r asesiad di-arholiad yn aros yr un fath am oes y cymhwyster ond bydd y briff neu'r ysgogiad yn newid fesul cyfres/cyfnod penodol, neu os yw tasgau'r asesiad di-arholiad eu hunain yn newid o gyfres i gyfres 

Mae'r pecyn asesu yn cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen ar athrawon/darlithwyr i reoli'r asesiad, y cynlluniau marcio, yr holl ffurflenni perthnasol a phecyn ymgeiswyr sy'n cynnwys manylion ynghylch y tasgau eu hunain. 

Gellir defnyddio deunyddiau asesu enghreifftiol fel rhan o weithgareddau wedi’u cyfeirio gan athrawon, neu weithgareddau wedi’u cyfeirio gan ddysgwyr. Gellir eu defnyddio fel ymarfer ar gyfer arholiad unwaith bydd y dysgu ar gyfer y testun neu'r uned wedi'i gwblhau. Gellir hefyd eu defnyddio fel canllaw ar gyfer athrawon/dysgwyr i greu eu cwestiynau eu hunain. Bydd hyn yn gwerthuso'r dysgu ac yn nodi'r meysydd i'w gwella. Mae'n bwysig deall mai pwrpas y deunyddiau asesu enghreifftiol yw dangos sut gall asesiad edrych yng nghyfresi arholiadau'r dyfodol. Felly, dylid eu defnyddio unwaith bydd y dysgu wedi'i gwblhau.   

Mae cwestiynau cyffredin mewn perthynas â'r deunyddiau asesu enghreifftiol ar gael ar y dudalen we ganlynol



Canllawiau Addysgu

Mae Canllawiau Addysgu yn cefnogi athrawon/darlithwyr i gyflwyno'r cymhwyster, gan gynnig arweiniad ar ofynion y cymhwyster a'r broses asesu. Ni fwriedir iddi fod yn ddogfen gynhwysfawr i gyfeirio ati ond yn hytrach i gynnig cefnogaeth i athrawon/darlithwyr wrth ddatblygu cyrsiau ysgogol a chyffrous sydd wedi'u teilwra i anghenion a sgiliau'r dysgwyr.Maent yn cynnig gweithgareddau posibl yn yr ystafell ddosbarth a chysylltau i adnoddau defnyddiol (gan gynnwys ein deunyddiau digidol ein hunain, sydd ar gael yn rhad ac am ddim) i roi syniadau ar gyfer gwersi diddorol ac atyniadol. 

Mae'r Canllawiau Addysgu yn dangos sut gallai athrawon/darlithwyr ddatblygu cyfleoedd ar gyfer profiadau dysgu ac ymgorffori elfennau o'r Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys y themâu trawsbynciol, sgiliau trawsgwricwlaidd a sgiliau cyfannol yn eu rhaglenni dysgu. Mae hyn yn cefnogi canolfannau i gyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru a chefnogi eu dysgwyr i wneud cynnydd tuag at bedwar diben y Cwricwlwm i Gymru. 



Adnoddau Digidol RHAD AC AM DDIM

Ynghyd â dogfennaeth y cymwysterau, ar y cyd â Llywodraeth Cymru, Cymwysterau Cymru ac Adnodd, rydym yn arwain y broses o greu adnoddau addysgu a dysgu newydd i gefnogi ein cymwysterau TGAU a chymwysterau cysylltiedig newydd.

Rydym eisoes wedi dechrau cyhoeddi'r adnoddau newydd cyffrous hyn, bydd y 280 o becynnau newydd llawn ar draws y don gyntaf o gymwysterau yn cael eu cyhoeddi erbyn mis Medi 2025. Bydd yr adnoddau hyn yn werthfawr i addysgwyr, gan wella'r profiad dysgu a hwyluso gwersi difyr. 

I gael mynediad at yr adnoddau hyn, ewch i'n gwefan Adnoddau Digidol.  



Rydym yn argymell yn gryf bod athrawon/darlithwyr yn defnyddio'r llu o gefnogaeth sydd ar gael wrth gyflwyno ein cymwysterau. Mae hyn yn cynnwys ein Manyleb, Deunyddiau Asesu Enghreifftiol, Canllawiau Addysgu ac adnoddau.  

Os oes angen unrhyw gefnogaeth ychwanegol arnoch, cysylltwch â'n timau pynciau, mae'r manylion cyswllt ar gael ar dudalen eich pwnc