Diolch yn fawr gan ein Prif Weithredwr
Annwyl gydweithwyr,
Ar ran pawb yn CBAC, hoffwn ddiolch yn bersonol i chi am eich holl waith caled yn ystod y flwyddyn academaidd hynod o anodd hon.
Ysgogodd y pandemig COVID-19 heriau newydd i bob un ohonom yn y misoedd diwethaf. Roedd hyn yn arbennig o wir ar ôl canslo arholiadau'r haf. Ond, mae ein diolch yn fawr i'n hathrawon am y ffordd arloesol y maent wedi cefnogi eu dysgwyr wrth wynebu'r rhwystrau hyn.
Hoffwn ddiolch i chi unwaith yn rhagor am gyflwyno eich Graddau Asesu Canolfannau a Threfnau Rhestrol. Mae ein Tîm Ymchwil arbenigol yn gweithio gyda'r rheoleiddwyr ar hyn o bryd er mwyn sicrhau y bydd y radd mae eich dysgwyr yn ei derbyn am eu gwaith caled yn un deg. Gwerthfawrogwn hefyd yr adborth cadarnhaol a dderbyniwyd gan ysgolion a cholegau mewn perthynas â'r gefnogaeth a gynigiwyd yn ystod y cyfnod hwn. Roedd hyn yn cynnwys mynediad uniongyrchol at ein Tîm Cefnogi Canolfannau a'r Canllawiau Pwnc-benodol.
Bydd gwybodaeth bellach yn cael ei rhannu dros ein gwefan, drwy e-bost ac ar y sianelau cyfryngau cymdeithasol yn yr wythnos i ddod i'ch paratoi chi a'ch dysgwyr am y Canlyniadau. Cewch eich annog i rannu'r deunyddiau hyn â'ch cydweithwyr a'r dysgwyr. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw adborth gennych. Wrth gwrs, oherwydd y sefyllfa bresennol cewch eich cynghori i anfon neges e-bost atom yn hytrach na ffonio. Mae hyn er mwyn sicrhau y byddwn ni'n gallu ymateb i'ch ymholiad yn gyflym ac effeithiol.
Tua'r dyfodol, mae ein Harbenigwyr Pwnc a'r Timau Adnoddau Digidol wrthi'n barod yn paratoi deunyddiau i'ch cefnogi chi yn y flwyddyn academaidd newydd. Yn eu plith mae lansio ein Rhaglen Dysgu Proffesiynol newydd, sydd i'w darparu'n gyfan gwbl ar-lein eleni. Gallwn eich sicrhau y byddwch chi'n parhau i dderbyn y lefelau uchaf o gefnogaeth, cyngor ac arweiniad. Bydd hyblygrwydd ar gael i chi hefyd gan y gallwch gymryd rhan mewn amrywiol gyrsiau o gartref, o'r swyddfa neu yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r amserlen lawn i'w gweld ar-lein ar ein tudalen gwe Dysgu Proffesiynol.
Rydym yn ehangu ymhellach ar ein dewis o adnoddau digidol rhad ac am ddim heb eu hail. Byddant yn cefnogi dull addysgu cyfunol. Adnoddau rhad ac am ddim yw'r holl adnoddau hyn ac fe'u datblygwyd i gefnogi cyflwyno a dysgu ein cymwysterau. Ewch i'n gwefan Adnoddau Digidol i'w gweld a'u defnyddio heddiw. Mae ein Tîm Adnoddau Digidol yn barod iawn i dderbyn unrhyw adborth ac awgrym bob amser. Anfonwch neges atyn nhw yn adnoddau@cbac.co.uk
Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi i gyd am fod mor adeiladol yn eich adborth o ran yr addasiadau y bwriadwn eu gwneud i'n cymwysterau Cyffredinol a Galwedigaethol oherwydd colli'r amser addysgu. Rhyddhawyd canlyniadau'r adborth a dderbyniwyd gennych ar gyfer TGAU ym mis Gorffennaf, a byddwch yn cael gwybod yn fuan am y TAG a'r Galwedigaethol. Bydd cyngor ac arweiniad pellach ar gael i chi gan ein Harbenigwyr Pwnc hefyd yn ystod yr hydref.
Hoffwn ddiolch i chi unwaith eto am eich holl gefnogaeth. Cofiwch gadw'n saff ac ymlaciwch dros wyliau'r haf.
Cofion gorau
Ian Morgan
Prif Weithredwr