Coronafeirws: Ofqual yn cychwyn ymgynghoriad ar arholiadau ac asesiadau 2021 ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a thechnegol

Coronafeirws: Ofqual yn cychwyn ymgynghoriad ar arholiadau ac asesiadau 2021 ar gyfer cymwysterau galwedigaethol a thechnegol

Mae Ofqual wedi cychwyn ymgynghoriad ar y trefniadau ar gyfer asesu a dyfarnu cymwysterau galwedigaethol a thechnegol yn Lloegr yn 2020/2021.

Mae'r ymgynghoriad yn nodi dull arfaethedig a'i fwriad yw lliniaru’r amhariad ar yr amser addysgu a dysgu i ddysgwyr sy'n dilyn cymwysterau galwedigaethol a thechnegol, a chymwysterau cyffredinol ar wahân i TGAU, UG a Safon Uwch yn 2020, yn ogystal ag ymateb i unrhyw fesurau iechyd yn y dyfodol.

Mae Cymwysterau Cymru wedi cadarnhau na fyddant yn ymgynghori ar wahân ar y trefniadau ar gyfer cymwysterau galwedigaethol yng Nghymru yn 2020/21 ac maent wedi annog pob rhanddeiliad i ymateb i ymgynghoriad Ofqual. Y rheswm am hyn yw bod y rhan fwyaf o'r cymwysterau galwedigaethol sy'n cael eu dilyn gan ddysgwyr yng Nghymru ar gael hefyd yng ngwledydd eraill y DU, felly er mwyn sicrhau cysondeb, mae Cymwysterau Cymru yn gweithio yn agos gyda'u cyd-reoleiddwyr i gysoni dulliau ar draws y gwledydd lle bynnag y bo'n bosibl.

Agorodd yr ymgynghoriad ar 3 Awst 2020 a rhaid i bob ymateb fod wedi'i gyflwyno i Ofqual erbyn 14 Awst 2020. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Ofqual

Mae CBAC yn croesawu'r ymgynghoriad hwn a bydd yn ystyried safbwyntiau amrywiol randdeiliaid yng Nghymru a Lloegr wrth gyflwyno ein hymateb i Ofqual.

Yn ddiweddar, gwnaethom holi canolfannau ynglŷn ag amrywiaeth o gynigion ar gyfer addasu ein cymwysterau a’n hasesiadau galwedigaethol a chymwysterau ac asesiadau cyffredinol eraill ar gyfer 2020/21, gyda’r bwriad o ryddhau amser ychwanegol ar gyfer addysgu a dysgu. Rydym ar hyn o bryd yn dadansoddi’r ymatebion i’n harolwg a byddwn yn ystyried y rhain yn sgil y cynigion a’r egwyddorion a amlinellir yn ymgynghoriad Ofqual.