Addasiadau arfaethedig i gymwysterau galwedigaethol a chymwysterau cyffredinol eraill CBAC yn haf 2021

Addasiadau arfaethedig i gymwysterau galwedigaethol a chymwysterau cyffredinol eraill CBAC yn haf 2021

Rydym yn ymwybodol y bydd cau'r ysgolion a cholegau wedi effeithio ar y dysgwyr hynny sy'n gweithio tuag at eu cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau cyffredinol eraill yn haf 2021. Deallwn hefyd fod yr amharu ar yr addysgu a'r dysgu yn heriol i'r canolfannau a'r dysgwyr fel ei gilydd.

O ganlyniad, rydym wedi bod yn cydweithio'n agos â’r rheoleiddwyr cymwysterau yng Nghymru a Lloegr er mwyn ystyried pa addasiadau y byddai'n briodol eu gwneud i'n cymwysterau galwedigaethol a chymwysterau cyffredinol eraill. Rydym wedi bod yn cyd-drafod â grwpiau ffocws o athrawon o wahanol rannau o Gymru gyda'r bwriad o lunio cynigion ar gyfer addasiadau i'w gwneud ar gyfer 2021. Hoffem yn awr ymgynghori'n ehangach ynghylch yr addasiadau arfaethedig hyn.

Rydym wedi llunio llyfryn pynciol sy'n amlinellu'r holl addasiadau arfaethedig, a'r egwyddorion sy'n sail i'r broses hon – gallwch weld y ddogfen hon ar ein gwefan ddiogel yma.

Mae eich barn yn bwysig i ni, ac rydym yn eich annog chi a'ch timau i rannu eich safbwyntiau am ein cynigion drwy gwblhau ein harolwg. Ni ddylai'r arolwg gymryd mwy na 10 munud i’w gwblhau a gellir ei weld drwy ddilyn y cyswllt yma.  Os ydych yn bwriadu ymateb i fwy nag un cynnig pwnc, bydd angen i chi gwblhau'r arolwg ar gyfer pob pwnc yr ydych yn ymateb iddo.

Ein bwriad yw cadarnhau manylion yr addasiadau erbyn yr wythnos yn dechrau 10 Awst 2020. Gofynnwn i chi felly a fyddech cystal â chwblhau'r arolwg hwn erbyn 26 Gorffennaf.