Deall eich arddull dysgu: Sut i adolygu'n ddoethach ar gyfer eich arholiadau TGAU a Safon Uwch

Pan ddaw i adolygu, un o'r camgymeriadau mwyaf y gallwch ei wneud yw copïo'r hyn sy'n gweithio i rywun arall. Y gwir yw, mae pawb yn dysgu'n wahanol a gall deall sut rydych chi'n dysgu wneud eich adolygu yn llawer mwy effeithiol.


Mae pedwar prif arddull dysgu yn aml yn cael eu defnyddio i ddisgrifio sut mae pobl yn derbyn gwybodaeth:

  • Gweledol
  • Clywedol
  • Cinesthetig
  • Darllen/Ysgrifennu

Mae'r rhan fwyaf o bobl yn gymysgedd o'r rhain mewn gwirionedd, ond gall gwybod eich arddull cryfaf eich helpu i adolygu'n ddoethach, nid ei wneud yn anoddach.

  


   

Dysgwyr gweledol

Mae dysgwyr gweledol yn deall gwybodaeth orau pan allant ei gweld. Gallai hyn fod ar ffurf diagramau, siartiau, lliwiau, neu ddelweddau.

Dulliau adolygu gorau:

  • Mapiau meddwl a diagramau corryn
  • Nodiadau â chod lliw
  • Cardiau fflach gyda lluniau
  • Gwylio fideos, animeiddiadau, neu TikTok sy'n benodol i'r pwnc
  • Defnyddio llinellau amser ar gyfer pynciau fel hanes

Awgrym: Gwnewch eich nodiadau ar ffurf diagramau yn hytrach na pharagraffau hir, byddwch yn ei chael hi'n haws cofio.

  

Dysgwyr clywedol

Mae dysgwyr clywedol yn dysgu orau drwy glywed gwybodaeth. Maen nhw'n cofio pethau drwy drafod, gwrando a siarad.

Dulliau adolygu gorau:

  • Recordio eich hun yn darllen nodiadau a'i chwarae yn ôl
  • Esbonio testunau yn uchel (hyd yn oed i chi'ch hun)
  • Astudio a thrafod mewn grŵp
  • Gwrando ar fideos adolygu
  • Defnyddio rhigymau neu ganeuon i gofio ffeithiau allweddol

Awgrym: Dewch â grŵp bach o ffrindiau at ei gilydd i adolygu, a dysgwch bynciau i’ch gilydd y mae’r lleill yn cael trafferth gyda nhw. Os gallwch chi esbonio rhywbeth yn uchel, mae’n debyg eich bod yn ei ddeall.

  

Dysgwyr cinesthetig

Mae’n well gan ddysgwyr cinesthetig ddefnyddio ymagwedd ymarferol at ddysgu – maent yn dysgu drwy wneud, symud ac ymgysylltu'n gorfforol â chynnwys.

Dulliau adolygu gorau:

  • Ymarfer cwestiynau arholiadau blaenorol
  • Defnyddio cardiau fflach yn weithredol (e.e. trefnu, paru)
  • Cerdded wrth adolygu neu fynd drwy eich nodiadau ar lafar
  • Rhannu adolygu'n sesiynau byr a gweithgar

Awgrym: Nid yw eistedd yn llonydd am oriau mor effeithiol i'r dysgwyr hyn, gall symud eich helpu i gofio mwy.

  

Dysgwyr Darllen/Ysgrifennu

Mae'n well gan y dysgwyr hyn wybodaeth ar ffurf geiriau fel canllawiau adolygu, cyflwyniadau athrawon, ac ati. Maen nhw'n dysgu orau drwy ddarllen gwybodaeth ac ysgrifennu nodiadau yn seiliedig ar hyn.

Dulliau adolygu gorau:

  • Ailysgrifennu nodiadau yn eich geiriau eich hun
  • Creu rhestrau a chrynodebau
  • Defnyddio adnoddau wedi'u creu gan eich athro a chanllawiau adolygu
  • Defnyddio cwestiynau cyn-bapurau i ymarfer ysgrifennu traethodau

Awgrym: Peidiwch â chopïo nodiadau yn unig, dylech eu hailysgrifennu a'u crynhoi i wella'ch dealltwriaeth ymhellach.

  


  

Nid yw'r rhan fwyaf o ddysgwyr yn perthyn i un categori yn unig, a gall eich arddull dysgu newid fesul pwnc. Mae'n bwysig cofio nad oes un ffordd "berffaith" o adolygu.

Y peth pwysicaf yw arbrofi a dod o hyd i'r hyn sy'n gweithio orau i chi!

Am ragor o awgrymiadau adolygu, edrychwch ar ein blogiau cefnogi myfyrwyr diweddaraf  '9 awgrym da i'ch helpu i adolygu', a '5 Rheswm pam y dylech chi ddefnyddio cyn-bapurau wrth adolygu’.