Ceisiadau ar gyfer Bwrsari Gareth Pierce 2026 nawr ar agor

Mae'n bleser gennym gyhoeddi bod pumed rownd y ceisiadau ar gyfer Bwrsari Gareth Pierce bellach ar agor.  

Er cof am ein cyn Brif Weithredwr, gwnaethom lansio Bwrsari Gareth Pierce yn 2022 i gefnogi myfyrwyr israddedig sy'n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg.  

Mae'r cynllun bwrsari yn cefnogi 3 myfyriwr yn flynyddol ac mae'n cael ei weinyddu gyda chefnogaeth garedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.  

Mae derbynwyr blaenorol wedi astudio mewn sefydliadau enwog gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Caerdydd, mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.

Meini Prawf   

Yn rhan o'r cynllun, rhoddir 3 bwrsari o £3,000 i bob myfyriwr sy'n astudio Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy'n gymwys hefyd i gael benthyciad myfyriwr yn seiliedig ar brawf modd. Gan mai grant yw'r arian a dderbynnir, nid yw'n ad-daladwy, gan leihau'r baich ariannol ar fyfyrwyr.  

Gwneud cais   

Mae ceisiadau ar gyfer myfyrwyr a fydd yn cychwyn eu hastudiaethau o fis Medi 2026 bellach ar agor. Mae manylion pellach am sut bydd y cynllun yn gweithio a sut i wneud cais ar gael drwy wefan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.