Arddangos cymhwyster newydd yn ystod ymweliad rhyngwladol
Aeth CBAC gyda ColegauCymru i ymweld â Barcelona yn ddiweddar i arddangos a datblygu dulliau addysgu rhyngwladol yn rhan o gymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd CBAC.
Ym mis Chwefror, aeth 21 o gynrychiolwyr o 11 o golegau addysg bellach ledled Cymru i gymryd rhan mewn rhaglen gyfnewid ryngweithiol 5 diwrnod o hyd i archwilio ffyrdd arloesol o ryngwladoli addysgu a dysgu yng Nghymru.
Staff ColegauCymru oedd yn arwain yr ymweliad ac fe gafodd ei hwyluso gan eu partner dysgu, Nexgen. Yn rhan o'r ymweliad, roedd Emma Vincent, Swyddog Cefnogaeth Addysg Bellach CBAC ar gyfer y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd, yn cydweithio â staff colegau i gyd-greu rhaglen symudedd dramor ar gyfer dysgwyr yn rhan o'r cymhwyster. Cynlluniwyd y rhaglen newydd hon i ganiatáu i ddysgwyr gymryd rhan mewn dysgu tramor, fel y gallant arddangos eu sgiliau o fewn lleoliad rhyngwladol.
Dyma oedd gan Emma Vincent, Swyddog Pwnc Addysg Bellach ar gyfer Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch yn CBAC, i'w ddweud am yr ymweliad: "Roeddem yn falch iawn o gyflwyno'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd ar lwyfan byd-eang. Cynlluniwyd y cymhwyster newydd ac arloesol hwn i gefnogi dysgwyr i fod yn ddinasyddion effeithiol, cyfrifol a gweithgar. Bydd ymgorffori elfennau rhyngwladol i'r addysgu a'r dysgu yn gwella'r cyfleoedd y mae'r cymhwyster hwn yn eu cynnig i ddysgwyr.
"Rydym yn ddiolchgar i ColegauCymru a Nexgen am gynnal y digwyddiad hwn, a oedd yn gyfle i ni gryfhau ein partneriaeth â cholegau ledled Cymru. Roedd y digwyddiad yn gyfle i ni wella dealltwriaeth colegau o ofynion y cymhwyster ymhellach wrth iddyn nhw baratoi i gyflwyno o fis Medi 2023.
"Roedd y gweithdai'n galluogi colegau i gyd-greu gweithgareddau arloesol ac ysbrydoledig i ddatblygu sgiliau, sef ffocws canolog y cymhwyster. Trwy harneisio addysgu a dysgu rhyngwladol, gallwn greu cyfleoedd ymarferol i ddysgwyr arddangos eu sgiliau."
Dywedodd Siân Holleran, Rheolwr Project yn ColegauCymru: "Roedd hwn yn gyfle cyffrous i'r sector Addysg Bellach archwilio ffyrdd arloesol o ryngwladoli addysgu a dysgu, yn enwedig mewn perthynas â'r cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd. Roeddem yn falch bod Emma yn gallu cydweithio â Nexgen i ddarparu'r hyfforddiant yn Barcelona; roedd ei chyfraniad arbenigol yn werthfawr i lwyddiant y rhaglen. Ers i ni gyrraedd nôl, rwy'n gwybod am brojectau cyffrous sydd eisoes yn cael eu datblygu yn y sector i ymgorffori syniadau o'r hyfforddiant mewn ymweliadau dysgwyr yn y dyfodol."
Yn ystod eu hymweliad, cafodd pawb oedd yn bresennol y cyfle i gymryd rhan mewn cyfres o weithdai ar draws y ddinas eiconig yn Sbaen, gan gynnwys TeamLabs a 42 Barcelona. Llwyddodd y gweithdai hyn i ysbrydoli pawb oedd yn bresennol i ddatblygu cyfleoedd rhyngwladol arloesol y gellir eu cynnig trwy'r cymhwyster newydd.
Dyma oedd gan Naomi Davies, Rheolwr Sgiliau Craidd yng Ngholeg Castell-Nedd, i'w ddweud am y daith: "Roedd yr wythnos yn gyfle gwych i ddod i ddeall mwy am y cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd ac roedd ein trafodaethau am y cymhwyster newydd yn graff ac yn gynhyrchiol, a fydd yn cael effaith gadarnhaol iawn ar ddyfodol y cymhwyster newydd. Mae'n amlwg bod llawer o botensial i gydweithio ac addysgu a dysgu'n rhyngwladol ar draws y cymhwyster newydd. Rwy'n edrych ymlaen at barhau â'r partneriaethau hyn ac at y cyfleoedd cyffrous sydd o'n blaenau!"
Gweld lluniau o'r daith ar ein tudalen Facebook.
Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch – galluogi dysgwyr Cymru i ffynnu yn y farchnad fyd-eang
Nod cymhwyster Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch newydd CBAC yw datblygu'r sgiliau y mae eu hangen gan fusnesau, gwasanaethau cyhoeddus, a phrifysgolion ledled y DU ac yn rhyngwladol.
Bydd y cymhwyster unigryw yn cael ei addysgu mewn ysgolion ledled Cymru o fis Medi 2023, ac mae wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr 16-19 oed i’w gymryd ochr yn ochr â chymwysterau Lefel 3 eraill fel Safon Uwch.
Yn ystod y cwrs dwy flynedd o hyd, bydd dysgwyr yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau a chyd-destunau cyffrous a fydd yn seiliedig ar agenda datblygiad cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a Nodau Llesiant Cymru yn ôl diffiniad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru).
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'n tîm pwnc heddiw:
Caroline Morgan, Swyddog Pwnc
029 2026 5319