Amlinelliadau o'r cymwysterau Gwneud-i-Gymru ac adroddiad o'r ymgynghoriadau ar gael nawr

Amlinelliadau o'r cymwysterau Gwneud-i-Gymru ac adroddiad o'r ymgynghoriadau ar gael nawr

Rydym yn falch o gyhoeddi bod ein hamlinelliadau terfynol o'r cymwysterau bellach wedi'u cyhoeddi ar gyfer y cymwysterau sydd ar gael i'w haddysgu am y tro cyntaf o fis Medi 2025.

Dywedodd Delyth Jones, Cyfarwyddwr Cynorthwyol, Datblygu Cymwysterau, wrth sôn am y garreg filltir hon: "Ar ran CBAC, hoffwn ddiolch i'r mwy na 1,000 o ymatebwyr a gymerodd ran yn ein hymgynghoriadau. Roedd eu hadborth adeiladol yn werthfawr iawn ac mae'n ffurfio rhan bwysig o'n proses ddatblygu, gan fod gwrando ar safbwyntiau ein rhanddeiliaid yn rhoi sylfaen i'n gwaith datblygu.

Bydd ein Tîm Datblygu Cymwysterau yn defnyddio'r amlinelliadau hyn fel sail i ddatblygu ein manylebau, a'r nod yw eu cyflwyno i Cymwysterau Cymru yn ystod tymor y gwanwyn. Mae hwn yn gyfnod cyffrous iawn i Gymru, gan y bydd ein cymwysterau'n cefnogi uchelgeisiau'r 'Cwricwlwm i Gymru' ac yn gwella profiad dysgu dysgwyr ledled Cymru."

Yn ogystal â'r amlinelliadau o'r cymwysterau, rydym hefyd wedi cyhoeddi adroddiad o'r ymgynghoriadau sy'n amlinellu'r camau rydym wedi'u cymryd, yn seiliedig ar ganlyniadau'r ymgynghoriadau.

Amlinelliadau o'r cymwysterau

Mae'r adroddiadau terfynol o'r cymwysterau ar gael ar gyfer y pynciau canlynol. Mae'r rhain i'w gweld ar dudalen eich pwnc:

TGAU newydd: I'w haddysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025

Cymhwyster nad yw'n TGAU: I'w addysgu am y tro cyntaf ym mis Medi 2025

Dysgu Proffesiynol

Byddwn yn cyhoeddi pecyn dysgu proffesiynol cynhwysfawr yn fuan i gefnogi'r gwaith o gyflwyno a gweithredu'r cymwysterau newydd hyn. Yn ogystal, ar gyfer pob amlinelliad o gymhwyster, rydym wedi datblygu cyflwyniad unigol. Mae'r rhain i'w gweld ar dudalennau gwe'r cymwysterau.

Llinell amser o weithgareddau

Bydd ein manylebau drafft yn cael eu cyflwyno i Cymwysterau Cymru yn ystod tymor y gwanwyn i'w hadolygu yn erbyn eu gofynion rheoleiddiol – bydd hon yn broses iterus tan y bydd ein cymwysterau wedi'u cymeradwyo. Byddwn yn cyhoeddi manylebau drafft ar ein gwefan yn ystod tymor yr haf a bydd y fanyleb derfynol wedi'i chymeradwyo yn cael ei chyhoeddi ym mis Medi.

Y newyddion diweddaraf

I gael y newyddion, y cyfleoedd a'r cwestiynau cyffredin diweddaraf ynghylch y TGAU newydd a chymwysterau cysylltiedig, ewch i'n hardal 'Gwnaed i Gymru. Yn barod i'r byd' ar y we. Mae'r ardal hon yn gartref i gyfoeth o ddeunydd, gan gynnwys cyflwyniad i'n Tîm Datblygu Cymwysterau sy'n arwain y gwaith o greu'r cymwysterau newydd hyn.