TGAU Cerddoriaeth - Dysgu o 2025
I gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau Dysgu Proffesiynol ar gyfer y cymwysterau TGAU Gwneud-i-Gymru newydd, ewch i'r dudalen Dysgu Proffesiynol yma.
Tanysgrifiwch i dderbyn ein cylchlythyr er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf gan dîm eich pwnc.
Drwy danysgrifio, byddwch chi’n derbyn adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth, y newyddion diweddaraf am y pwnc, argymhellion gan arbenigwyr, cyrsiau dysgu proffesiynol, a swyddi gwag Arholi perthnasol. Bydd popeth wedi’i roi at ei gilydd gan gadw eich anghenion addysgu chi mewn golwg.
Mae'r cymhwyster TGAU Cerddoriaeth yn cael ei lunio ar sail ystyriaethau pwnc-benodol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol. Bydd y cymhwyster:
- drwy'r broses greadigol, yn caniatáu i ddysgwyr archwilio, ymateb i ysgogiadau a chreu a myfyrio ar eu gwaith eu hunain. Ar yr un pryd, byddant hefyd yn ymwneud â phrofiadau sy'n gyfoethog ac yn ddilys.
Mae'r cysyniadau canlynol ar gyfer y cymhwyster TGAU Cerddoriaeth yn seiliedig ar y datganiadau o'r hyn sy'n bwysig Llywodraeth Cymru ar gyfer y Celfyddydau Mynegiannol:
- mae archwilio’r Celfyddydau Mynegiannol yn hanfodol er mwyn dyfnhau sgiliau a gwybodaeth gelfyddydol, ac mae’n galluogi dysgwyr i ddod yn unigolion chwilfrydig a chreadigol
- mae ymateb a myfyrio, fel artist ac fel cynulleidfa, yn rhan hanfodol o ddysgu yn y Celfyddydau Mynegiannol
- mae creu yn cyfuno sgiliau a gwybodaeth, gan dynnu ar y synhwyrau, ysbrydoliaeth a’r dychymyg.
Bydd y cymhwyster TGAU Cerddoriaeth yn cefnogi'r Cwricwlwm i Gymru drwy gefnogi'r egwyddorion cynnydd:
- annog dysgwyr i archwilio, profi, dehongli, creu ac ymateb i ystyr sy'n gynyddol gymhleth
- datblygu dysgu cysyniadol sy'n gynyddol soffistigedig
- defnydd mwy soffistigedig o sgiliau perthnasol a'r gallu i drosglwyddo sgiliau a gwybodaeth bresennol i gyd-destunau newydd.
Cefnogi ein cymwysterau Gwneud-i-Gymru gydag adnoddau wedi'u teilwra sy’n RHAD AC AM DDIM
Darganfyddwch bopeth sydd gan ein gwefan newydd Adnoddau Digidol i'w gynnig >
